Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dragons鈥 Den Cymru 鈥 Dydd Gwener 15 Mai 
  		Published: 30/04/2015
Mae Dragon鈥檚 Den Cymru Sir y Fflint yn ei 么l 鈥 ac rydym ni鈥檔 annog darpar 
entrepreneuriaid i gofrestru. 
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim, syn cael ei drefnu gan Glwstwr Dwyrain 
Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, yn cael ei gynnal ar Gampws Coleg Cambria 
Glannau Dyfrdwy ddydd Gwener 15 Mai, o 10am tan 2pm. 
Maen gyfle i ddarpar entrepreneuriaid gyflwyno eu syniadau i entrepreneuriaid 
busnes llwyddiannus syn awyddus i fentora a chefnogi busnesau newydd yn Sir y 
Fflint. 
Y Dreigiau sy鈥檔 barod i gynnig eu cefnogaeth yw Askar Sheibani, Prif Swyddog 
Gweithredol Comtek yng Nglannau Dyfrdwy, Christine Sheibani, Cyfarwyddwr 
Comtek, Adam Butler o Easy Online Recruitment a Mike Scott o The Group / Llew 
Coch Marchwiail. 
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint: 
鈥淩ydw i鈥檔 annog unrhyw un sydd eisiau bod yn fos arnyn nhw eu hunain, neu sydd 
eisiau cymorth i ddod yn entrepreneur, i ddod draw i ddigwyddiad Dragons鈥 Den 
Cymru syn cael ei drefnu gan Gymunedau yn Gyntaf. Maen gyfle gwych - maer 
Dreigiau i gyd yn berchenogion busnes lleol ac os ydyn nhw鈥檔 credu bod gan eich 
syniad chi botensial yna byddan nhw鈥檔 cynnig eich mentora ar sail un-i-un am 
chwe mis.鈥 
Yn gweithio ochr yn ochr 芒 digwyddiadau Dragons鈥 Den mae Clwb Menter Sir y 
Fflint, ac mae aelodau鈥檙 clwb yn entrepreneuriaid o wahanol oedrannau ac ar 
wahanol gamau busnes. Mae yna lawer o wybodaeth ar gael am ddim yn ogystal 芒 
sgyrsiau gan siaradwyr ysbrydoledig o nifer o sefydliadau gan gynnwys 
sefydliadau addysg uwch a phellach. Bydd T卯m Busnes Cyngor Sir y Fflint a 
Llywodraeth Cymru hefyd wrth law i roi cyngor a chefnogaeth. 
Gallwch fynychu鈥檙 clwb am ddim ac mae鈥檙 aelodau yn cyfarfod bob yn ail ddydd 
Gwener, o 10am tan 12.30pm, ar Gampws Cymunedol John Summers, Chester Road 
East, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SE.  
Dywedodd Askar Sheibani, Cefnogwr Entrepreneuriaeth Busnes Llywodraeth Cymru a 
Phrif Swyddog Gweithredol Comtek, cwmni trwsio a chefnogi telathrebu: 
鈥淩ydw i wrth fy modd ein bod ni鈥檔 cynnal Dragon鈥檚 Den arall. Mae cyfoeth o 
dalent a syniadau yn Sir y Fflint ac rydym ni eisoes wedi profi, gydar 
digwyddiadau blaenorol, y gall anogaeth aelodau mwy sefydledig or gymuned 
fusnes arwain at lwyddiant ysgubol. Mae Sir y Fflint eisoes wedi dangos ei fod 
yn un o鈥檙 rhanbarthau economaidd mwyaf bywiog drwy ddyblu nifer y busnesau 
newydd o fewn blwyddyn. Yn fwy na hynny, wrth i ni barhau i gynyddu nifer y 
busnesau ffyniannus yn y gymuned, maer twf economaidd sy鈥檔 deillio yn talu ar 
ei ganfed ac mae Sir y Fflint yn prysur ddod yn lleoliad fwyfwy deniadol i 
fusnesau.鈥
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad Dragons鈥 Den neu am Glwb Menter Sir y 
Fflint, cysylltwch 芒 Chymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu e-bostiwch 
beverly.moseley@flintshire.gov.uk.