Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Published: 06/04/2020
Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi鈥檌 dewis fel y safle gorau sydd ar gael ar gyfer Ysbyty Brys i wasanaethu ardal Dwyrain Gogledd Cymru oherwydd ei lleoliad a pha mor hygyrch ydyw ar ffyrdd; ei maint a鈥檌 gosodiad mewnol; cyfleustodau a chyfleusterau sydd ar gael fel cyfleusterau toiled ac ymolchi hygyrch. Mae gan y Ganolfan Hamdden fantais o allu darparu capasiti gwelyau estynedig y tu hwnt i鈥檙 targed 250 dechreuol os oes angen.
Dewiswyd y Ganolfan Hamdden ddydd Iau 2 Ebrill gan d卯m o bartneriaid gan gynnwys t卯m proffesiynol amlddisgyblaethol o鈥檙 Bwrdd Iechyd, y Cyngor fel y landlord, y Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth T芒n a鈥檙 Fyddin, ac mewn ymgynghoriad gydag Aura Cymru fel y tenant.
Mae tasg bwysig gennym nawr o drawsnewid Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn ysbyty dros dro erbyn diwedd mis Ebrill yn barod ar gyfer y brig disgwyliedig o ran galw am dderbyniadau i'r ysbyty.
Y ddau brif ward fydd y neuadd chwaraeon a neuadd y parc sglefrio. Mae鈥檙 ganolfan sglefrio, sydd mewn cyflwr sych ar hyn o bryd a heb ei orchuddio 芒 rhew, yn drydydd man a gedwir fel lle wrth gefn. Gwnaed y penderfyniad i ddymchwel offer y parc sglefrio fel y dewis mwyaf effeithlon o ran amser er mwyn galluogi鈥檙 prif gontractwr, a fydd yn gosod yr ysbyty, i gael mynediad yn syth i鈥檙 Ganolfan Hamdden o ddydd Llun 6 Ebrill.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law o ran sut bydd yr ysbyty dros dro yn gweithredu, a phryd fydd yn agor. Y Bwrdd Iechyd fydd yn rheoli鈥檙 ysbyty.
Bydd y Ganolfan Hamdden yn dychwelyd i鈥檞 defnydd llawn pan fydd y sefyllfa frys drosodd. Bydd Aura a鈥檙 Cyngor yn asesu鈥檙 dewisiadau ar gyfer neuadd y parc sglefrio a beth gellir ei gynnig yn y lle hwn pan fydd y sefyllfa frys ar ben. Mae鈥檙 Cyngor yn cysylltu 芒 Llywodraeth Cymru am gefnogaeth ariannol i sicrhau y caiff Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy offer newydd ar gyfer cynnig hamdden ar gyfer y dyfodol.
听 听 听 听 听 听 听听
mae'r gwaith yn dechrau yn DLC
|

Neuadd chwaraeon
|
听
听