Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiect hanes cymdeithasol y Cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd chwarae
Published: 29/04/2015
Mae canfyddiadau prosiect hanes cymdeithasol manwl y Cyngor 鈥 Atgofion Chwarae
Sir y Fflint 1910 - 2014 - wedi eu cyhoeddi ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw
chwarae wedi bod erioed i ddatblygiad plant. Maer canfyddiadau hefyd yn dangos
nad yw chwarae, fel ymddygiad, wedi newid rhyw lawer yn y ganrif ddiwethaf, ond
mae yna ostyngiad yn nifer y llefydd sydd ar gael i blant chwarae.
Cynhaliwyd y prosiect rhwng mis Ionawr 2011 a mis Gorffennaf 2014 gan D卯m
Datblygu Chwarae鈥檙 Cyngor a bu iddyn nhw gasglu a chofnodi atgofion chwarae
trigolion Sir y Fflint. Cafodd yr holiaduron eu llenwi gan dros chwe chant o
bobl o bob rhan or sir, a bu i鈥檙 t卯m ddadansoddi 6,600 o ddarnau o wybodaeth.
Roedd atgofion chwarae pobl yn ymestyn or 1920au hyd heddiw.
Or atgofion a ddarparwyd gan y cenedlaethau iau, ac yn groes ir hyn yr oedd
rhai or oedolion hyn yn eu credu yn eu hymatebion, mae鈥檔 ymddangos bod plant
yn dal yn gwneud yr un math o bethau. Mae cyfrifiaduron, setiau teledu a ffonau
clyfar yma i aros ond, pan ofynnwyd, roedd y plant yn dal yn tynnu sylw at eu
hawydd i chwarae yn eu cymdogaethau gydau ffrindiau yn eu hamser hamdden. Maen
nhw鈥檔 chwilio am antur a chyfleoedd chwarae yn y byd ou cwmpas mewn llu o
wahanol ffyrdd.
Roedd yr ymgyrch hefyd yn rhan o brosiect rhanbarthol mwy gan elusen NEW Play i
gasglu tystiolaeth am y newidiadau sydd wedi digwydd, o fewn cof dyn byw, yng
ngallu plant i chwarae. Cafodd y prosiect hefyd gefnogaeth nifer o sefydliadau
cymunedol syn ffurfio Rhwydwaith Chwarae ehangach Sir y Fflint. Maer
canfyddiadau wedi eu casglu au cyhoeddi gan Chwarae Cymru (yr elusen
genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru).
Roedd yr ymatebion yn cynnwys:
Fe fyddwn i wrth fy modd pe gallwn smyglo fy wyrion yn 么l i鈥檙 cyfnod hwnnw.
Roedd bywyd mor syml ac roedd pleser mawr i鈥檞 gael dim ond o fod yn fyw. 鈥楧oedd
gennym ni ddim arian, dim sdwff 鈥榙esigner鈥, dim ond cyfeillgarwch cadarn a
pharhaol .... y cyfnod gorau un, er ei bod yn adeg y rhyfel.鈥
鈥淭ydi plant heddiw ddim yn cael rhyddid i archwilio a chwarae ar eu pen eu
hunain. Mae鈥檔 ymddangos bod popeth wedi ei strwythuro.鈥
鈥溾極bsesiwn llwyr 芒 diogelwch! Mae hyn yn atal creadigedd ac nid yw鈥檔 caniat谩u
ar gyfer
archwilio, cydweithio, llunio penderfyniadau ac yn y blaen, sy鈥檔 hanfodol ar
gyfer datblygiad yr unigolyn.鈥
鈥淒yw hon ddim yn ardal sy鈥檔 ddigon diogel i adael i blant chwarae鈥檔 rhy bell
o鈥檙 ty ac mae gemau cyfrifiadurol a鈥檙 teledu鈥檔 chwarae rhan bwysicach yn eu
bywydau.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff,
Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden:
鈥淵n Sir y Fflint, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd chwarae i bob
plentyn a hoffem ddiolch ir holl bobl hynny sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn
llwyddiant ysgubol - yn enwedig ein trigolion a gwblhaodd yr holiaduron. Dengys
ein canfyddiadau mai鈥檙 hyn sydd wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd yw
argaeledd amser, lle chwarae a chaniat谩u plant i chwarae fel y mynnon nhw.
Roedd atgoffa oedolion o鈥檜 profiadau chwarae pan oedden nhw鈥檔 blant hefyd yn
arf eirioli defnyddiol i gefnogi plant heddiw au hawl i gael amgylcheddau
chwarae addas - syn hanfodol ar gyfer eu lles. Am fwy o wybodaeth - ac
awgrymiadau ar sut y gallwch chi helpu plant i chwarae fel y mynnon nhw, ewch i
www.flintshire.gov.uk/psa.鈥
Am ragor o fanylion, cysylltwch 芒 Janet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae Sir y
Fflint ar 01352 702456 neu janet.a.roberts@flintshire.gov.uk