天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Prif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol Gig Cymru i Drigolion

Published: 01/04/2020

Bydd cyfran fechan o drigolion Sir y Fflint sydd 芒 chyflwr iechyd presennol neu sy鈥檔 gofalu am rywun sydd 芒 chyflwr o鈥檙 fath wedi derbyn llythyr gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru.

Mae鈥檙 llythyr yn cynnig cyngor pwysig i gadw鈥檙 trigolion hyn yn ddiogel rhag y coronafeirws, ac yn eu cynghori mai'r ffordd orau o osgoi cael coronafeirws yw aros adref am y 12 wythnos nesaf. Cynghorwyd trigolion i beidio 芒 chael unrhyw ymwelwyr heb law am ofalwyr a gweithwyr gofal iechyd.听

Rydym yn cefnogi鈥檙 trigolion hynny sydd wedi derbyn llythyr ac nad oes ganddynt deulu, ffrindiau neu gymdogion a allai helpu gyda phethau pwysig fel cael gafael ar gyflenwadau bwyd a meddyginiaeth yn ystod yr argyfwng hwn.听 听 Mae ein gweithlu a gwirfoddolwyr o Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn darparu cefnogaeth hanfodol i鈥檙 trigolion hyn.

Rydym yn cydnabod y gallai fod angen cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn ar rai aelodau o'n cymunedau sydd heb dderbyn y llythyr hwn.听 Rydym yn annog trigolion sy鈥檔 bryderus i gysylltu 芒 ni ar 01352 752121. Mae ein t卯m yn barod iawn i drafod anghenion cymorth unigolion a gwneud trefniadau i helpu unigolion diamddiffyn.