天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llacio rheolau masnachu ar y Sul yn Sir y Fflint

Published: 01/04/2020

Er mwyn cynorthwyo siopau bwyd yn Sir y Fflint i ddarparu nwyddau hanfodol i weithwyr allweddol a phobl ddiamddiffyn lleol a鈥檙 gymuned ehangach, mae mesurau gorfodi'r ddeddfwriaeth Masnachu ar y Sul wedi'i hatal dros dro yn ystod y sefyllfa argyfyngus bresennol.

Ar hyn o bryd, mae鈥檙 ddeddfwriaeth yn caniat谩u i rai siopau mawr 鈥� megis archfarchnadoedd 鈥揳gor ar y Sul am 6 awr yn olynol rhwng 10am a 6pm yn unig. Ni fydd swyddogion y cyngor yn gorfodi hyn bellach sy'n golygu y gall siopau ddechrau masnachu ddwy awr yn gynharach os ydynt yn dymuno manteisio ar y mesur.

Bydd yr oriau masnachu ychwanegol yn ei gwneud yn haws i weithwyr allweddol siopa am fwyd megis staff meddygol, gweithwyr gofal, gweithwyr y gwasanaethau brys a chriwiau casglu gwastraff. Bydd y mesur hefyd yn rhoi mwy o amser i siopau reoli ymweliadau cwsmeriaid yn ystod y dydd, fel y mae llawer yn ei wneud eisoes, fel eu bod yn cadw at gyngor y Llywodraeth ar ymbellhau ac ymddygiad cymdeithasol.

Bydd pob siop a effeithir gan y mesur hwn yn derbyn cyngor a chyfarwyddyd priodol gan swyddogion y cyngor.

Cynghorir preswylwyr i wirio amseroedd ac oriau agor eu siopau lleol cyn teithio oherwydd gall lefelau staffio a rhesymau logistaidd eraill atal siopau rhag agor am oriau ychwanegol.

听