Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwella ein hawliau tramwy
  		Published: 27/04/2015
Mae llwybr troed syn cynnig cyswllt hanfodol rhwng Treffynnon a Holway wedi 
cael ei wellan sylweddol yn dilyn gwaith helaeth gan Gyngor Sir y Fflint, a 
gynhaliwyd gyda chefnogaeth cymorth grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). 
Roedd y gwaith yn cynnwys torri llystyfiant, disodli hen ddraen a darparu 
arwyneb carreg. Maer llwybr troed, sy鈥檔 rhan o lwybr pellter hir o鈥檙 enw 
Llwybr y Pererinion rhwng Ffynnon St. Gwenffrewi, Treffynnon ac Ynys Enlli. Mae 
hefyd yn cysylltu 芒 Maes Glas a Llwybr Arfordir Cymru, a agorwyd yn ffurfiol yn 
2012. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
鈥淢ae鈥檙 T卯m Hawliau Tramwy yn darparu gwasanaeth gwerthfawr wrth gynnal y 
rhwydwaith llwybrau troed i drigolion ac ymwelwyr i fwynhau cefn gwlad hardd 
Sir y Fflint.
鈥淩wyn falch iawn bod y gwaith rhwng Treffynnon a Holway wedi cael ei gynnal i 
safon mor uchel a dylai roi hwb i dwristiaeth yn ardal Treffynnon a鈥檙 tu 
hwnt.     
Roedd y gwaith hwn yn un o nifer o gynlluniau a gynhaliwyd i wella llwybrau 
troed a llwybrau ceffylau ar hyd a lled Sir y Fflint dros y flwyddyn ariannol 
ddiwethaf gyda chymorth gan CNC fel rhan oi raglen ariannu i weithredu Cynllun 
Gwella Hawliau Tramwy Sir y Fflint.