Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y wybodaeth ddiweddaraf i鈥檙 Cyngor am argyfwng COVID-19
Published: 26/03/2020
听
Yn ystod y sefyllfa argyfyngus hon 鈥� wrth i鈥檙 Cyngor weithio gyda鈥檌 sefydliadau partner allweddol i gefnogi pob cymuned ar draws y Sir 鈥� hoffai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a Colin Everett, Prif Weithredwr, ddiolch i breswylwyr Sir y Fflint am eu cefnogaeth barhaus a鈥檜 hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.
Treth y Cyngor
Rydym yn ymwybodol fod rhywfaint o ddryswch o ran Treth y Cyngor a p鈥檜n a oes rhaid i bobl ei dalu ar hyn o bryd.听 听Mae rhai pobl yn cael anawsterau ac yn poeni na allant wneud eu taliadau.听 Mae鈥檙 Cyngor yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor os byddwch chi yn y sefyllfa hon.听 Os ydych chi鈥檔 gymwys ac angen cyngor a chymorth, gallwch gysylltu 芒鈥檔 t卯m Treth y Cyngor ar 01352 704848 neu dros e-bost ar local.taxation@flintshire.gov.uk neu gallwch fynd i鈥檔 gwefan .听听
Sylwch fod nifer y galwadau yn uchel iawn ac rydym yn cael nifer fawr o negeseuon e-bost.听 Rydym yn sylweddoli y gall hyn fod yn rhwystredig i chi.听 Mae鈥檙 mwyafrif helaeth o bobl sy鈥檔 ceisio cysylltu 芒 ni yn deall y sefyllfa ac maen nhw鈥檔 amyneddgar a pharchus gyda鈥檔 gweithwyr.听 Hoffem ofyn i bawb sy鈥檔 ein ffonio gofio hyn.
Gall llawer o bobl fforddio talu eu Treth y Cyngor o hyd.听 Mae Treth y Cyngor yn dreth leol sy鈥檔 ffurfio traean o gyfanswm incwm y Cyngor.听 Yn y sefyllfa argyfyngus hon, mae鈥檙 Treth y Cyngor rydych chi鈥檔 ei thalu yn helpu i ariannu鈥檙 gwasanaethau hanfodol y mae鈥檔 rhaid i ni barhau i鈥檞 darparu i gefnogi pobl a chymunedau.听 听Mae鈥檙 Cyngor wedi blaenoriaethu gwasanaethau hanfodol lle maen nhw鈥檔 diogelu bywydau, diogelu pobl ddiamddiffyn, sicrhau diogelwch y cyhoedd, cadw鈥檙 isadeiledd cludiant ar agor, a helpu gweithwyr allweddol i wneud eu gwaith.听 Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:听
- rhedeg cartrefi gofal preswyl
- cefnogi oedolion diamddiffyn yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau gofal
- darparu gofal cartref i bobl yn eu cartrefi eu hunain
- helpu pobl i gael eu rhyddhau o鈥檙 ysbyty i 鈥榬yddhau鈥� gwelyau ysbyty
- cefnogi plant diamddiffyn yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau gofal
- rhedeg Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol
- helpu pobl ddigartref a darparu llety ar eu cyfer
- talu budd-daliadau tai
- rhoi cyngor lles i鈥檙 rhai sydd angen cefnogaeth gydag incwm eu teulu
- dosbarthu bwyd i bobl mewn angen a phobl mewn tlodi
- agor ysgolion fel canolfannau gofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol
- cyflawni dyletswyddau gwarchod y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd gan gynnwys diogelwch bwyd a lles anifeiliaid
- casglu gwastraff o aelwydydd
- cadw鈥檙 rhwydwaith priffyrdd ar agor ac yn rhedeg
- cadw mynwentydd ar agor
- cofrestru genedigaethau a marwolaethau
- darparu cefnogaeth i fusnesau lleol bach a chanolig a rhoi cefnogaeth grant brys iddynt ar ran Llywodraethau
Byddai angen i Lywodraethau wneud unrhyw benderfyniadau am newidiadau dros dro i gasglu Treth y Cyngor.听 Dim ond casglu鈥檙 Dreth mae鈥檙 Cyngor.听
Ffioedd a Thaliadau ac Ad-daliadau
Rydym yn cael nifer fawr o ymholiadau lle mae pobl wedi tanysgrifio am wasanaethau maen nhw鈥檔 talu amdanynt 鈥� ac mae鈥檙 gwasanaethau hyn wedi鈥檜 hatal dros dro.听 Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 ymholiadau hyn yn ymwneud 芒鈥檙 gwasanaeth gwastraff gardd.听 Rydym yn gobeithio gallu ailgyflwyno鈥檙 gwasanaeth hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac rydym yn edrych ar ostyngiad posibl ar gyfer t芒l casglu gwastraff gardd 2021/22 a fydd yn gymesur 芒 hyd y cyfnod atal dros dro eleni.听听
Pan fo priodasau a digwyddiadau sifil wedi鈥檜 canslo, byddant 鈥� lle bo鈥檔 bosibl 鈥� yn cael eu haildrefnu ar gyfer dyddiad arall. Pan nad yw hyn yn bosibl, cynigir ad-daliad.听 Bydd hyn hefyd yn berthnasol i ganslo trefniadau llogi cyfleusterau ac ystafelloedd cyfarfod a gweithgareddau er enghraifft.听 听听
Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am ffioedd a thaliadau ac ad-daliadau pan fyddant wedi鈥檜 cymeradwyo.
Gweithio Gyda'n Gilydd
Mae hwn yn amser pryderus i ni i gyd, ac mae ein gweithlu cyfan yn rhannu鈥檙 holl ofidiau a phryderon sydd gennych.听
Mae angen i ni barchu a gwerthfawrogi gweithlu鈥檙 sector cyhoeddus ar yr adeg ddifrifol hon.
Mae gweithlu鈥檙 GIG yn cael eu canmol a鈥檜 hanrhydeddu am eu hymroddiad a鈥檜 gwaith, a hynny鈥檔 haeddiannol iawn. Nid nhw yw鈥檙 unig rai sy鈥檔 cadw鈥檙 wlad i redeg a chadw pobl yn ddiogel ac iach. Mae gan y Cyngor ei 鈥榝yddin鈥� ei hun o weithwyr allweddol sy鈥檔 cyfrannu at yr ymdrech trwy ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol a chymunedau.听
Mae mwyafrif helaeth preswylwyr lleol a chwsmeriaid yn bod yn amyneddgar a chydweithredu 芒 ni wrth i ni gau gwasanaethau penodol nad ydynt yn hanfodol dros dro ac adleoli ein gweithlu i gefnogi鈥檙 gwasanaethau hanfodol.听 Yn anffodus mae lleiafrif fach o bobl sydd wedi ffonio ein Canolfannau Cyswllt wedi bod yn ymosodol ac yn ddifr茂ol weithiau. Mae enghreifftiau yn cynnwys pobl sy鈥檔 talu Treth y Cyngor yn disgwyl 鈥榞wyliau鈥� oddi wrth ei thalu oherwydd bod gwasanaeth lleol fel llyfrgell wedi鈥檌 gau dros dro.听 听Nid yw ymddygiad o鈥檙 math hwn yn dderbyniol.听
Rydym yn apelio am ymddygiad da a gofalgar. Mae gennym ninnau weithlu llai nag arfer gyda gweithwyr yn absennol oherwydd eu bod yn s芒l, yn hunanynysu, neu adref i ofalu am eu plant oherwydd bod eu partner yn weithiwr allweddol.听听
Ar ran y Cyngor, byddem yn annog pawb i gadw鈥檔 ddiogel a dilyn y canllawiau sydd wedi鈥檜 rhoi ar waith.听
听