Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newidiadau i Ddarpariaethau Gofal Plant yn Sir y Fflint o ddydd Llun 30 Mawrth 2020 ymlaen
Published: 26/03/2020
O ddydd Llun, 30 Mawrth, ymlaen bydd Cyngor Sir y Fflint yn newid ei fodel ar gyfer darparu gofal plant i weithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed. Bydd y Cyngor yn gweithredu canolfannau ysgol cynradd, uwchradd ac arbennig llai o faint mewn ardaloedd strategol wrth ymyl prif lwybrau traffig gwledig a threfol.听
Bydd 12 canolfan ardal, wedi鈥檜 ffurfio gan 22 safle ysgol. Mae adeiladau ysgol wedi鈥檜 dewis oherwydd eu lleoliad, maint a chynllun eu hystafelloedd dosbarth, ac i sicrhau bod y ddarpariaeth wedi'i gwasgaru ar draws y sir ac o fewn cyrraedd pawb.听
Bydd ysgolion lleol yn cydweithio i redeg y ddarpariaeth gofal plant yn y ganolfan ardal. Bydd hyn yn eu galluogi i ail-leoli a rhoi athrawon a staff cymorth ar rota i ofalu am y plant. Mae鈥檙 model yma hefyd yn caniat谩u i鈥檙 Cyngor ail-flaenoriaethu gwasanaethau arlwyo a chludiant i'r ysgol i gefnogi'r plant sy'n mynd i'r canolfannau hyn.
Bydd y canolfannau ar agor o 8am tan 5.30pm ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd y plant yn derbyn bwyd am ddim - brecwast, cinio a byrbryd ysgafn yn y prynhawn. Bydd y rhan fwyaf o rieni yn gallu mynd a n么l eu plant ond, os nad ydi hyn yn bosibl, bydd y Cyngor yn gallu trefnu cludiant ar gais. Mae trefniadau ar gyfer gwyliau鈥檙 ysgol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.听
Gallwn sicrhau rhieni nad yw llai o safleoedd yn golygu y bydd grwpiau mawr o blant gyda鈥檌 gilydd.听 Bydd gan ysgolion gynlluniau ar waith i gadw plant mewn grwpiau bychain yn yr ystafelloedd dosbarth ac yn ystod yr egwyl ac amser cinio. Byddan nhw鈥檔 sicrhau bod y canllawiau cadw pellter yn cael eu dilyn,
Efallai y bydd rhieni a phlant yn pryderu ynghylch mynd i adeilad newydd ac anghyfarwydd. Ond, ble bynnag y bo鈥檔 bosibl, bydd plant o鈥檙 un ysgol yn cael eu rhoi gyda鈥檌 gilydd mewn grwpiau bach fel eu bod yn adnabod rhywun. Bydd staff o bob ysgol leol hefyd yn gweithio yn eu canolfan ardal felly bydd gan y plant wyneb cyfarwydd i'w cysuro.听听
Gan fod hon yn ddarpariaeth gofal plant yn hytrach nag addysg statudol, ni fydd canolfannau ar wah芒n ar gyfer ysgolion Cymraeg nac ysgolion ffydd. Bydd yr arferion arferol o ran diogelu plant yn parhau.听
Bydd pob ysgol yn rheoli ei phroses archebu lle ei hun ar gyfer rhieni fel eu bod yn gwybod pa blant fydd yn mynychu pob dydd, ac i sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu. Bydd gofyn i rieni lenwi ffurflen gofrestr syml a nodi鈥檙 holl fanylion pwysig. Bydd ysgolion yn cysylltu 芒 rhieni yn uniongyrchol ynglyn 芒 sut i archebu lle.听
Rydym ni鈥檔 rhagweld y bydd rhieni yn defnyddio鈥檙 ganolfan sydd agosaf atyn nhw ond, os oes canolfan arall yn fwy cyfleus oherwydd teithio, mae modd iddyn nhw ddefnyddio鈥檙 ganolfan honno a derbyn cefnogaeth eu pennaeth 鈥榗artref鈥� i wneud hynny.
Ceir rhestr o鈥檙 ysgolion sy鈥檔 ganolfannau ardal ar waelod y llythyr hwn.听
Os oes gennych chi unrhyw bryder neu gwestiwn, cysylltwch 芒 phennaeth eich 鈥榶sgol gartref鈥� sydd wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ac yma i鈥檆h helpu chi.
Mae鈥檙 Cyngor yn hyderus mai hwn ydi鈥檙 model mwyaf cynaliadwy a chadarn i ddarparu gofal plant sydd wir ei angen, a bydd yn darparu鈥檙 adnoddau sydd eu hangen i wneud y canolfannau yn llwyddiant.听 Mae trefniadau ar gyfer gwyliau鈥檙 ysgol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听