Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Plant yn Sir y Fflint
Published: 26/03/2020
Mae Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd Cyngor Sir y Fflint yn gweithio鈥檔 galed i reoli鈥檙 sefyllfa bresennol o ran Covid-19, mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae鈥檙 cyngor a鈥檙 canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chyrff iechyd cyhoeddus eraill yn cael eu diweddaru鈥檔 gyson ac maent yn cael eu pasio ymlaen i鈥檙 sector yn gyflym drwy ddiweddariadau rheolaidd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. 听听Maent yn cyfathrebu鈥檔 bennaf drwy:
E-bost: fisf@flintshire.gov.uk
Twitter a
Facebook
Gall darparwyr gofal plant hefyd gysylltu 芒鈥檜 person cyswllt arferol drwy Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant a Hawl Bore Oes. 听Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cyfathrebu鈥檔 rheolaidd ac yn gyson. Yr un yw鈥檙 neges i wasanaethau Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant a Hawl Bore Oes.
Nid oes gofyn i leoliadau gofal plant gau. 听Bydd Sir y Fflint yn dal i wneud taliadau am ofal plant a ddarperir dan Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant a Hawl Bore Oes.
Dylai ysgolion sydd 芒 darpariaeth gofal plant cofrestredig ar y safle aros ar agor, er bod addysg ysgol statudol wedi鈥檌 atal. 听Byddwn yn parhau i gydweithio 芒 darparwyr gofal plant a rhieni, a bydd gwybodaeth bellach ar gael dros yr wythnosau sydd i ddod.
Mae cyngor y llywodraeth yn nodi鈥檔 glir iawn y dylai plant aros gartref lle bynnag y bo hynny鈥檔 bosib. Fodd bynnag, dylai teuluoedd gweithwyr allweddol dynodedig (a ddisgrifir yn y rhestr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru) allu cael gafael ar ofal plant brys os bydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith, pan nad oes yna ddewis arall diogel.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi canllawiau clir ar sut y dylai teuluoedd gael eu blaenoriaethu yn unol 芒 chanllawiau Llywodraeth Cymru:
- Categori 1 - rhiant sengl sy鈥檔 gweithio mewn swydd sydd ar y rhestr y mae Llywodraeth Cymru鈥檔 ei diffinio鈥檔 hanfodol i鈥檙 ymateb i Covid-19.
- Categori 2 鈥� lle mae鈥檙 ddau riant yn gweithio mewn swyddi sydd ar y rhestr.
- Categori 3 鈥� rhiant o uned deuluol nad yw鈥檔 gymwys dan gategor茂au 1 a 2 uchod, ac sy鈥檔 gweithio mewn swydd oddi ar y rhestr; a lle mae yna reswm esboniadwy a dilys dros eu hangen i ddefnyddio鈥檙 ddarpariaeth.
Gall darparwyr gofal plant geisio eglurhad pellach gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd neu eu person cyswllt arferol yn yr Awdurdod Lleol.
听