Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gohirio Ffioedd Maes Parcio
Published: 26/03/2020
Mae ffioedd ym mhob maes parcio talu ac arddangos ar draws y sir wedi鈥檜 gohirio o 25 Mawrth.听
Gwnaed y penderfyniad er mwyn lleihau鈥檙 cyswllt personol a鈥檙 perygl o drosglwyddo COVID-19/Coronafeirws ar y peiriannau, ac i gynorthwyo gweithwyr allweddol a siopa hanfodol yn ystod y cyfnod heriol ma.听
Er y gallwch barcio am ddim yng nghanol ein trefi ar hyn o bryd, rydym angen i chi ddilyn cyngor y Llywodraeth a:
- Pheidio 芒 theithio oni bai fod wirioneddol raid i chi
- Dim ond ar gyfer cyflenwadau hanfodol y dylech siopa (bwyd, meddyginiaeth)
- Osgoi ymgasglu fel criw, hyd yn oed y tu allan
- Cadw 2m o bellter o unrhyw berson os nad ydynt yn byw yn yr un ty 芒 chi听
Bydd pob maes parcio鈥檔 parhau i gael eu monitro. Dylech barcio鈥檔 gyfrifol o fewn y llinellau, ac ffwrdd o gerbydau eraill lle y bo鈥檔 bosibl.听
Maes Parcio Gamfa Wen a Glanhau鈥檙 Traeth
Mae maes parcio Gamfa Wen yn Nhalacre bellach wedi cau.听
Mae鈥檙 maes parcio yma鈥檔 darparu meysydd pario ychwanegol ar gyfer twristiaid ac ymwelwyr tymhorol ac nid oes ei angen hyd y gellir rhagweld.听
Mae鈥檙 tirfeddiannwr wedi cysylltu 芒鈥檙 Cyngor gan ddweud y bydd maes parcio鈥檙 traeth yn cau hefyd.听
Yn ystod y cyfnod yma, bydd y gwaith o lanhau鈥檙 traeth yn cael ei ohirio a bydd yr adnoddau鈥檔 cael eu hadleoli i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau adnoddau ar draws y Sir.听
Os ydych chi鈥檔 byw yn lleol ac yn cerdded ar y traeth, dilynwch gyngor y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol, a chymerwch unrhyw sbwriel adref gyda chi.听
听