天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyn busnes golchi ceir

Published: 24/03/2020

Mae鈥檔 rhaid i fusnes golchi ceir yn Sir y Fflint dalu dirwy o 拢3,193 am beidio 芒 chydymffurfio 芒 rhybuddion diddymiad niwsans ar 么l achosi niwsans swn a chwistrellu dwr.听

Roedd y swn a鈥檙 chwistrellu yn cael ei achosi gan y cyfleuster golchi 芒 chwistrell, ac roedd swn ychwanegol yn sgil glanhau ceir yn defnyddio dau sugnwr llwch. Roedd y cyfleusterau yn golygu bod modd golchi dau gar ar yr un pryd.

Plediodd y ddau ddiffynnydd, Darren Davies y perchennog a Mr Arram Mahmud, gweithredwr y cyfleuster golchi ceir, yn euog yn Llys yr Ynadon, Wrecsam, ar 17 Mawrth 2020.

Ar 么l derbyn sawl rhybudd a chwynion pellach, gwelodd swyddogion y Cyngor y gwaith golchi ceir a oedd yn achosi鈥檙 niwsans 芒鈥檜 llygaid eu hunain.听

Derbyniodd y diffynwyr rybuddion diddymiad ar 13 Rhagfyr 2019 ar 么l i swyddogion eu rhybuddio eu bod yn achosi niwsans i breswylydd yr eiddo drws nesaf. Roedd modd clywed y niwsans swn y tu mewn i鈥檙 eiddo ac roedd y chwistrellu dwr a鈥檙 swn yn golygu nad oedd modd defnyddio'r patio tu allan na'r ardd.

Parhaodd y gwaith a chafwyd gwarant i symud yr holl gyfarpar a oedd yn gyfrifol am y swn oddi ar y safle, gan gynnwys dau bwmp chwistrellu 芒 dwr a dau sugnwr llwch diwydiannol.

Gorchmynnodd yr ynadon bod Mr Davies yn talu dirwy o 拢925 a bod Mahmud yn talu dirwy o 拢2,790. Dywedodd yr ynadon bod Mr Mahmud wedi diystyru鈥檙 gyfraith a bod ei ddirwy yn adlewyrchu hynny.

Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint:

鈥淔el unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol arall, gall niwsans swn achosi cryn dipyn o drallod. Hoffaf ddiolch i鈥檔 swyddogion rheoli llygredd am eu gwaith da i adfer ychydig o鈥檙 heddwch i fywyd y cymydog."听