Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cau parciau ac ardaloedd chwarae
Published: 23/03/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd 芒 llywodraethau lleol a chenedlaethol yn dod yn fwyfwy pryderus am y risgiau i iechyd y cyhoedd os nad yw鈥檙 cyhoedd yn dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol mewn mannau agored.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob cyngor ar draws Cymru adolygu鈥檙 gwaith o reoli mannau agored lleol er mwyn helpu i ymladd y pandemig.
Felly mae Sir y Fflint, ynghyd 芒 nifer o Gynghorau eraill ar draws Cymru, wedi penderfynu cau ardaloedd chwarae plant caeedig a pharciau gwledig y mae鈥檔 gyfrifol amdanynt o ddydd Llun 23 Mawrth nes rhoddir rhybudd pellach, er lles iechyd y cyhoedd.听
Mae鈥檙 Cyngor wedi gofyn i sefydliadau eraill sydd yn rheoli mannau agored tebyg 鈥� megis Cynghorau Tref a Chymuned 鈥� i wneud yr un fath.听
Bydd pob ardal chwarae a pharc gwledig yn Sir y Fflint yn cau ac yn cael eu diogelu o ddydd Llun 23 Mawrth 鈥� a bydd arwyddion yn cael eu rhoi i fyny 鈥� nes y rhoddir rhybudd pellach.听
Mae Cyngor Sir y Fflint yn apelio am eich cydweithrediad. Peidiwch 芒 cheisio defnyddio鈥檙 mannau yma.听
Rydym yn dilyn cyngor y Llywodraeth genedlaethol wrth gymryd camau anffodus yma, ac ni fyddem yn gweithredu fel hyn oni bai am y perygl difrifol i fywydau.听
听