Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Published: 11/03/2020
Yn ei gyfarfod nesaf, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn gwahoddiad i ailosod amcanion cydraddoldeb y Cyngor.听 听Mae hyn yn rhan o鈥檔 Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) am y pedair blynedd nesaf.
Mae pob awdurdod lleol ar draws Cymru yn cyhoeddi amcanion cydraddoldeb bob pedair blynedd.听 听 听Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo鈥檔 gryf i drin pob dinesydd, cwsmer a gweithiwr yn gyfartal.听 听 Mae gan y Cyngor gyflawniadau rhagorol 鈥 gan gynnwys cyhoeddi Archwiliad T芒l Cyfartal blynyddol a Chynllun Gwarantu Cyfweliad ble os ydych yn anabl ac yn ymgeisio am swydd, y byddwch yn sicr o gael cyfweliad cyn belled 芒鈥檆h bod yn diwallu鈥檙 lleiafswm o ofynion hanfodol.听听
Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Ngogledd Cymru ac wrth baratoi ei strategaeth mae wedi ystyried adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar anghydraddoldebau yng Nghymru 鈥 鈥淵dy Cymru yn Genedl Decach?鈥 2018鈥 鈥 yn y chwe maes bywyd ble mae anghydraddoldeb y mwyaf heriol:-
- addysg
- gwaith
- safonau byw
- iechyd
- cyfiawnder a diogelwch
- cyfranogi at gymdeithas.
Amcanion y Cyngor yw:-
- Gwella canlyniadau iechyd, lles a gofal cymdeithasol gan gynnwys canlyniadau i bobl hyn a phobl anabl;
- Lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng grwpiau gwarchodedig a gweithredu strategaethau i wella lles;听
- Sicrhau cyflog cyfartal o fewn y gweithle drwy gael strategaethau cyflog a graddio teg, agored a thryloyw;
- Lleihau anghyfartaleddau mewn cyflogaeth a lleihau鈥檙 bwlch rhwng dynion a merched;听
- Gwella diogelwch personol i holl grwpiau gwarchodedig;听
- Cynyddu mynediad i gyfrannu at wasanaethau a gwneud penderfyniad i holl grwpiau gwarchodedig;听
- Gwella safonau byw pobl gyda nodweddion gwarchodedig gwahanol sef: oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol;
- Datblygu ein gwybodaeth am y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i amddiffyn pobl rhag tlodi.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn falch o gyhoeddi'r cynllun hwn sy'n rhoi manylion am yr amcanion, y camau gweithredu a'r targedau y byddwn yn ymgymryd 芒 nhw yn ystod y pedair blynedd nesaf.听
鈥淢ae gweithio mewn partneriaeth gyda phob corff cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru yn helpu i nodi amcanion cydraddoldeb cyffredin.听 听I gynorthwyo gyda monitro, bydd amcanion perthnasol yn cael eu cynnwys mewn Cynlluniau Busnes Portffolio a bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad cynnydd bob 6 mis.鈥
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
鈥淔el Cyngor mae gennym werthoedd cymdeithasol cadarn.听 听Mae anghydraddoldeb yn parhau i fod yn her gymdeithasol ac economaidd fawr hyd yn oed yn yr 21ain ganrif. Rydym i gyd angen gwneud mwy 鈥 ac mae ein Strategaeth yn nodi pa ran y byddwn yn parhau i鈥檞 chwarae.鈥
Mae Cyngor Sir y Fflint yn aelod o鈥檙 Rhaglen Cefnogwyr Amrywiaeth Stonewall, yn Gyflogwr Anabledd Hyderus a statws Aur Cyfamod y Lluoedd Arfog.听 听
听