Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hyfforddiant am ddim i fusnesau yn Sir y Fflint
Published: 04/03/2020
Darparodd T卯m Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth 芒 Picturehouse Films ail weithdy hyfforddi am ddim i fusnesau lleol ar draws Sir y Fflint.
Mae Picturehouse yn gwmni sector preifat gyda dros 30 mlynedd o brofiad o gynhyrchu ffilmiau proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer darlledu, busnes, hysbysebu a marchnata digidol ar y we.听 Fel rhan o鈥檜 strategaeth cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, rhannodd Picturehouse gynghorion a thriciau gwych er mwyn gwella ansawdd ac effaith delweddau a chlipiau fideo er mwyn hyrwyddo brand ac/ neu wasanaethau sefydliadol.
Dywedodd Kate Oldfield, cynhyrchydd gyda Picturehouse Films:
听鈥淢ae Fideo mor boblogaidd bellach 鈥 a dyma y ffordd fwyaf pwerus i gyfathrebu, os ydych yn ei wneud yn iawn.听 Mae Picturehouse yn d卯m o weithwyr ffilm a theledu proffesiynol llwyddiannus. Rydym wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd. Ac mae鈥檔 bleser gennym rannu ein gwybodaeth. Mae鈥檙 sesiynau鈥檔 llawn hwyl, cyfeillgar ac yn llawn dop o wybodaeth. Mae鈥檔 anodd gwneud yn siwr fod eich neges yn cael ei chlywed dros yr holl swn fideo, gall ychydig o gynghorion wneud gwahaniaeth mawr.
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
鈥淢ae鈥檔 dda gweld busnesau lleol llwyddiannus yn cynnig rhywbeth yn 么l i鈥檙 gymuned drwy gynnal gweithdai llwyddiannus fel hwn. Byddwn yn sicr yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle i wneud unrhyw hyfforddiant yn y dyfodol 鈥 mae hefyd yn ffordd wych o rwydweithio gyda mentrau cymdeithasol eraill yn Sir y Fflint.鈥