Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Digwyddiad yn arddangos cyfleoedd gwaith
  		Published: 02/03/2020
Cynhaliodd dîm Cymunedau am Waith Cyngor Sir y Fflint ddigwyddiad yn ddiweddar i roi cyfle i bobl weld y cyfleodd gwaith sydd ar gael yn y diwydiant hamdden, twristiaeth a lletygarwch – sy’n cyflogi 3.2 miliwn o bobl ar hyd a lled y DU.Ìý ÌýÌý
Roedd nifer o gyflogwyr yn bresennol, yn cynnwys:
- Canolfan Addysg Awyr Agored Kingswood
 
- Randstad
 
- Theatr Clwyd
 
- Tîm Chwarae Cyngor Sir y FflintÌý
 
- Hamdden a Llyfrgelloedd Aura
 
Roedd ymgynghorwyr Cymunedau am Waith, Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith hefyd yno i ddarparu gwybodaeth am y cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli sydd ar gael yn yr ardal ac ar draws y DU a thu draw, ac i roi gwybod i bobl ymhle mae modd chwilio am swyddi penodol.Ìý Ìý
Roedd sawl gweithgaredd hwyliog ar gael, fel sglefrio iâ, troelli a hunan-amddiffyn – a oedd yn gyfle da i bobl roi cyfle ar rywbeth newydd.Ìý
Roedd Cymunedau am Waith hefyd yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer rhaglen gyflogadwyedd Llywodraeth Cymru (sy’n cynnig cymorth 1 i 1 i bobl 16 oed a hyn sydd eisiau cyngor a chyfarwyddyd ar gael gwaith).
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch dîm Cymunedau am Waith ar 01352 704430.
Ìý
 Ìý Ìý ÌýÌý | 
  |