Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiect Archif ar y Cyd yn y ras am Wobrau Treftadaeth Gorwelion
Published: 27/02/2020
Mae prosiect Archifau Creadigol Sir y Fflint a Sir Ddinbych ar y rhestr fer am Wobrau Treftadaeth Gorwelion 鈥 gyda chyfle i gystadlu am gyfran o 拢50m.听
Mae prosiect Archifau Creadigol wedi ei wneud o dair elfen:
- cyfuno grwpiau staff i gydweithio fel un t卯m cydlynol o Ebrill 2020;
- adeiladu un cyfleuster canolog o鈥檙 radd flaenaf sy鈥檔 amgylcheddol gyfeillgar i gartrefu'r archifau ger Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug;
- darparu rhaglen weithgaredd sy鈥檔 torri tir newydd a sy'n arwain at gynyddu鈥檙 nifer o bobl mae鈥檙 archifau yn eu cyrraedd, a hefyd pobl amrywiol.听
Nid yw鈥檙 cyfleuster canolog arfaethedig wedi ei gadarnhau, gan y bydd angen cyflwyno cais am gyllid ac ni fydd y canlyniad yn hysbys tan y flwyddyn nesaf.听
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
鈥淢ae鈥檔 newyddion gwych fod y prosiect arloesol hwn wedi cyrraedd y rhestr fer ac mae'n gyffrous fod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi gweld y potensial am ganolbwynt diwylliannol a fydd yn apelio at gynulleidfa ehangach ac a fydd yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r DU a'r byd i Ogledd Cymru. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i'r prosiect hwn ac yn llwyr gefnogol iddo.
鈥淔e fydd y ddau wasanaeth archifau yn uno o fis Ebrill eleni, gan weithredu i ddechrau o ddau safle presennol archifau yn Yr Hen Reithordy, Penarl芒g a Charchar Rhuthun, gan symud maes o law i gyfleuster newydd a fydd o'r radd flaenaf. Fe fydd ein treftadaeth mewn gwell cyflwr o ganlyniad i amodau storio, a gofodau rheoli casgliadau a chadwraeth o鈥檙 radd flaenaf.鈥
Mae鈥檙 Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn cytuno:
鈥淢ae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu鈥檔 fawr ac yn dystiolaeth o waith caled ein swyddogion yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Fe fydd y defnydd o ddogfennau ac arteffactau hanesyddol fel sail ar gyfer adrodd straeon a pherfformiad yn rhan nodedig ac arloesol o'r rhaglen weithgareddau i ennyn diddordeb ystod ehangach o bobl nad ydyn nhw, o bosibl, erioed wedi ystyried ymweld ag archifdy o'r blaen.听
鈥淔e fydd y prosiect yn mynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau gyda鈥檙 adeiladau presennol 鈥 mae鈥檙 ddau yn hen adeiladau rhestredig nad ydynt yn bodloni safonau'r diwydiant, maent yn ddrud i'w cynnal ac nid oes ganddynt lawer o le i addasu.鈥澨
Yn ddibynnol ar sicrhau cyllid allanol fe allai adeiladu'r adeilad newydd ddechrau yn 2023 ac fe allai'r adeilad newydd gael ei agor yn 2025.听
Mae disgwyl i'r prosiect cyfan, gan gynnwys cynllunio ac adeiladu'r adeilad a'r arian i wella ac ehangu'r gwasanaethau archif a ddarperir i鈥檙 cyhoedd, gostio tua 拢16.6 miliwn. Byddai 70% o gyfanswm y gost yn cael ei dalu o bosibl gan gynnig llwyddiannus i Gronfa Treftadaeth y Loteri, a byddai angen i'r ddau Gyngor ariannu鈥檙 30% sy鈥檔 weddill.
Dywedodd Eilish McGuinness, Cyfarwyddwr Gweithredol a Chadeirydd Panel Gwobrau Treftadaeth Gorwelion Cronfa Dreftadaeth y Loteri:听听
鈥淔e ofynnom am brosiectau uchelgeisiol, arloesol a thrawsffurfiol, nid dim ond ar gyfer treftadaeth ond ar gyfer pobl a chymunedau hefyd. Roedd y panel yn llawn edmygedd ac wedi ei ysbrydoli 芒鈥檙 hyn a welodd.
鈥淩ydym yn hynod gyffrous ynglyn 芒 cham nesaf y broses ac fe fyddwn nawr yn gweithio gyda'r prosiectau cyn y cais am gyllid datblygu yn ddiweddarach eleni."
Mae gan y deuddeg prosiect sydd ar y rhestr fer hyd at fis Tachwedd 2020 i ymgeisio am gyllid datblygu, gyda鈥檙 penderfyniadau yn cael eu gwneud yn nechrau 2021. Fe fyddant yn ymgeisio am y cyntaf o ddau set o 拢50m ac fe fydd ganddynt hyd at ddwy flynedd i gyflwyno cynigion cyflawni. Bydd y gwobrau cyllido llawn yn cael eu penderfynu gan Fwrdd Cronfa Dreftadaeth y Loetri.
听
听

听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听