Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Uwchraddio blocdyrau yn y Fflint yn paratoir ffordd ar gyfer datblygiad canol tref newydd
  		Published: 29/04/2015
Uwchraddio blocdyrau yn y Fflint yn paratoir ffordd ar gyfer datblygiad canol 
tref newydd.
Bydd blocdyrau yn y Fflint, sy鈥檔 cynnwys 270 o fflatiau, yn cael eu 
huwchraddio鈥檔 sylweddol fel rhan o gynlluniau uchelgeisiol y Cyngor Sir i 
adfywior dref. 
Bydd y gwaith, sydd ar raddfa fawr, yn cael ei wneud gan SERS Energy Solutions 
Ltd, sydd wedi derbyn y contract gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd y gwaith yn rhan 
o gynllun uwchraddio cyffredinol gwerth 拢100 miliwn i wella stoc tai cyngor y 
sir. 
Bydd SERS Energy Solutions Ltd yn atgyweirio鈥檙 concrit, yn inswleiddio waliau 
allanol ac yn inswleiddio鈥檙 to i gynyddur hirhoedledd ac i wella 
effeithlonrwydd ynnir adeiladau. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys newid miloedd 
o ffenestri gwreiddiol, a fydd yn her logistaidd o ran ceisio cydlynu crefftwyr 
gwahanol mewn man agored iawn. 
Adeiladwyd y tri thwr yn y 1960au ar 1970au ochr yn ochr 芒r fflatiau deulawr, 
sy鈥檔 cael eu dymchwel i wneud lle ar gyfer rhai o鈥檙 500 o gartrefi newydd sy鈥檔 
cael eu hadeiladu gan y Cyngor ar draws y sir. 
Maer Cyngor yn ddiweddar wedi ennill gwobr a chydnabyddiaeth genedlaethol am 
ei ddulliau arloesol o ddiwallu anghenion tai drwy lansio cwmni tai 
fforddiadwy, sef Tai Gogledd-Ddwyrain Cymru (NEW Homes). Maen parhau i geisio 
sicrhau bod y tai presennol yn cyrraedd y safon a, lle bo angen, yn cyflwyno 
datrysiadau tai newydd. 
Maer blocdyrau yn asedau poblogaidd iawn a bydd y gwaith yma鈥檔 sicrhau bod 
tenantiaid yn mwynhau cartrefi cynnes, cyfforddus a fforddiadwy.   
Bydd SERS Energy Solutions Ltd, o dde Cymru, yn cael eu cefnogi gan Knauf ac 
IKO Plc a fydd yn cyflenwi deunyddiau. Mae disgwylir i鈥檙 contract yma greu 20 i 
30 o swyddi yn ogystal 芒 chefnogi ffatri Knauf yng Nglannau Dyfrdwy gerllaw.   
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: 
鈥淵 contract yma yw cam cyntaf datblygiad canol tref newydd y Fflint ac mae鈥檔 
dangos gweledigaeth y Cyngor i adfywio cymunedau. Maer Cyngor yn rhagweld y 
bydd y gwaith yn dechrau ar Richard Heights y gwanwyn yma. Bydd tenantiaid yn 
cael eu gwahodd i ddweud eu dweud drwy gydol y cynllun, gan gynnwys ar gynllun 
terfynol y blociau.
Mae SERS yn arbenigwyr dylunio, cyflenwi a gosod datrysiadau arbed ynni. Maen 
nhw鈥檔 gweithio mewn cydweithrediad 芒u cleientiaid er mwyn eu helpu i wneud 
dewis gwybodus ynghylch y ffordd orau o wella perfformiad ynni eiddo. 
Mae croeso i drigolion neu denantiaid sydd 芒 diddordeb mewn lleihau eu costau 
ynni gysylltu 芒 phartneriaid y Cyngor, sef Canolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru, 
yn rhad ac am ddim ar 0800 954 0658.
Llun:
Llun y tu allan i Richard Heights yn y Fflint gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir 
y Fflint - gan gynnwys y Cyng. David Cox, y Cyng. Alex Aldridge, y Cyng. Bernie 
Attridge, y Cyng. Helen Brown, a Clare Budden, Prif Swyddog, Cymuned a Menter; 
a chynrychiolwyr o SERS Energy Solutions Ltd.