Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Polisi Gwerth Cymdeithasol
Published: 17/01/2020
Pan fydd yn cyfarfod ar 21 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar y cynnydd a wnaed wrth gyflawni'r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2019. Gofynnir i Aelodau'r Cabinet hefyd gymeradwyo'r Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft.
Mae gan y Cyngor ymrwymiad i sicrhau mwy o werth cymdeithasol trwy'r gwaith y mae'n ei wneud; mae hyn yn golygu cael mwy o fuddion i gymunedau Sir y Fflint o ganlyniad i'w wariant a'i wasanaethau. Yn ddiweddar, penododd y Cyngor Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol i yrru'r agenda hon yn ei blaen, a bydd y Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol yn creu fframwaith galluogi i gryfhau'r dull o gynhyrchu gwerth cymdeithasol trwy'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu prynu.
Bydd y prif flaenoriaethau ar gyfer darparu gwerth cymdeithasol yn ystod y 12 mis nesaf yn cynnwys:
鈥 cefnogaeth i raglen tlodi bwyd Sir y Fflint;
鈥 lleihau tlodi tanwydd;
鈥 cefnogaeth i leihau'r defnydd o ynni a gwastraff;
鈥 cefnogaeth i Gyfamod y Lluoedd Arfog;
鈥 hyrwyddo cyfle cyfartal;
鈥 darparu cyfleoedd prentisiaeth a phrofiad gwaith;
鈥 cynyddu'r defnydd o gwmn茂au lleol yn y gadwyn gyflenwi;
鈥 lleihau digartrefedd;
鈥 cefnogi mentrau sy'n gyfeillgar i ddementia; a
鈥 chefnogaeth i gyflogaeth i bobl ifanc ar yr ymylon ac i blant sy'n derbyn gofal.
Bydd y cyngor yn cyflawni'r rhain trwy鈥檙 nodau tymor hir o:听
鈥 caniat谩u i sefydliadau'r trydydd sector ddangos y gwerth cymdeithasol a gynhyrchir trwy eu gwaith a fydd yn eu helpu i sicrhau adnoddau a chontractau;
鈥 annog cwmn茂au lleol a rhanbarthol i gryfhau eu dulliau o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol; a
鈥 cefnogi rheolwyr gwasanaeth y sector cyhoeddus i ehangu eu hymwybyddiaeth o effeithiau eu gwaith ar y gymuned.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Billy Mullin:
鈥淎r hyn o bryd, mae gwerth cymdeithasol yn cael ei gynhyrchu yn bennaf trwy gontractau mwy sy'n werth mwy na 拢1m. Mae gan gyflenwyr a chontractwyr mwy brofiad sylweddol o gynhyrchu gwerth cymdeithasol. Bydd y Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft yn herio rheolwyr gwasanaeth i feddwl yn fras am y gwasanaethau a'r nwyddau sy'n cael eu caffael ac ystyried sut y gellid cynhyrchu gwerth cymdeithasol ehangach.听
鈥淏ydd sicrhau mwy o werth cymdeithasol yn offeryn allweddol wrth helpu鈥檙 Cyngor i ddangos sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol yn cael ei chyflawni ar lawr gwlad. Mae gweithredu'r Strategaeth hefyd yn rhoi cyfle i adeiladu arfer da ar draws partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lle mae cryn ddiddordeb mewn cydweithio ar ddatblygu gwerth cymdeithasol.鈥
Mae rhai llwyddiannau hyd yma yn cynnwys:
鈥 Datblygiad y Ganolfan Gofal Dydd i Oedolion newydd yn Queensferry. Roedd y gwerth cymdeithasol ychwanegol a gynhyrchwyd trwy'r prosiect yn cynnwys:
鈥 610 o fyfyrwyr ysgol neu goleg yn ymweld 芒'r safle adeiladu fel rhan o'u hastudiaethau;
鈥 6 swydd wedi'i chreu;
鈥 Cefnogwyd 15 lleoliad profiad gwaith;
鈥 6 cyfle prentisiaeth wedi'u creu; a
鈥 Darparwyd 18 cyfweliad cyflogedig i ymgeiswyr difreintiedig.
鈥 Darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni domestig ar gyfer cartrefi sy'n brin o danwydd yn cynnwys contract a gaffaelwyd o 拢900k rhwng y Cyngor a'r cwmni lleol Wall-lag. Mae'r gwerth cymdeithasol ychwanegol a gynhyrchir trwy'r prosiect yn cynnwys:
鈥 Mae un person ifanc lleol, sy'n gleient i raglen gyflogaeth y Cyngor, wedi'i gyflogi ar brentisiaeth drydanol tair blynedd;
鈥 mae'r holl staff a gyflogir i gyflawni'r contract yn byw yn yr isranbarth;
鈥 Bydd Wall-lag yn darparu'r hyn sy'n cyfateb i 0.5% o'r holl wariant a wneir trwy'r contract fel cronfa argyfwng ar gyfer gwella cartrefi'r rhai mwyaf diamddiffyn yn Sir y Fflint.
Mae gan y Cyngor nifer o gyfleoedd mawr i sicrhau gwerth cymdeithasol sylweddol y bydd angen eu cynnwys yn y rhaglen am y 12 mis nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys:
鈥 caffael tir i adeiladu cartrefi Cyngor yn y dyfodol;
鈥 ailddatblygu Theatr Clwyd;
鈥 Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif;
鈥 ehangu Ty Marleyfield; a
鈥 buddsoddiad gan Aura yn y dyfodol.
Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda chyflenwyr a chontractwyr i sicrhau bod buddion diriaethol yn cael eu cyflawni tuag at y them芒u hyn, a sicrhau bod buddion clir i bobl Sir y Fflint yn cael eu gwireddu.
听