天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mynd i鈥檙 afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol adeg y Nadolig

Published: 19/12/2019

Mae darparwr gofal cartref Cyngor Sir y Fflint, Premier Care Plus, yn rhoi gwledd Nadolig i鈥檞 defnyddwyr gwasanaeth sy鈥檔 wynebu Nadolig ar eu pennau eu hunain.

Mae鈥檙 sefydliad wedi bod yn cynnal yr ymgyrch Cinio Nadolig ers tair blynedd ac eleni fydd y flwyddyn fwyaf hyd yma.

Eleni, bydd yr ymgyrch yn darparu cinio Nadolig tri chwrs traddodiadol i 25 o bobl hyn, yn syth at eu drws gan eu gofalwr ar noswyl Nadolig, yn barod ar gyfer ddiwrnod Nadolig.

Mae Premier Care Plus hefyd wedi gofyn i ddarparwyr gofal cartref eraill Cyngor Sir y Fflint roi gwybod am bobl hyn eraill a fydd ar eu pennau eu hunain er mwyn iddynt gael cinio ar ddydd Nadolig. Drwy hyn, mae鈥檙 cwmni鈥檔 gobeithio rhannu rhywfaint o hwyl yr Wyl.

Bydd yr holl brydau鈥檔 cael eu rhoi gan Premier Care Plus, a鈥檜 coginio gan staff sy鈥檔 gwirfoddoli o fewn y cwmni.

Dywedodd perchennog Premier Care Plus, Nicki Hopwood Clarke:

鈥淕all ymweliad gan weithiwr gofal cartref wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau ein cleientiaid, yn enwedig ar ddydd Nadolig. Maen nhw mor falch pan maen nhw hefyd yn cael cinio 鈥橠olig tri chwrs poeth ac mae鈥檔 dod 芒 chymaint o lawenydd a hapusrwydd.听 Dyma esiampl arall o fy staff yn mynd tu hwnt i鈥檙 disgwyliadau ar gyfer y cleientiaid maent yn eu cefnogi.鈥

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint sydd 芒 chyfrifoldeb am Werth Cymdeithasol:

鈥淢ae鈥檔 wych gweld ein darparwyr gofal cymdeithasol yn mynd yr ail filltir i鈥檔 trigolion. Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i lawer o bobl, yn enwedig i鈥檙 rhai a fydd ar eu pennau eu hunain. Mae hon yn fenter wych, ac yn enghraifft wych o ymdrechion ein darparwyr ni i wneud mwy na鈥檙 galw. Hoffem ddiolch i bob un sy鈥檔 rhoi cymorth i bobl ddiamddiffyn dros y Nadolig.鈥

Dywedodd un o drigolion Sir y Fflint, Mrs Jones, sy鈥檔 derbyn pryd o fwyd eleni:

鈥淓fallai na fyddwn i wedi gweld unrhyw un os na fyddai fy ngofalwr wedi galw. Mi gefais ginio Nadolig llawn gan fy ngofalwr y llynedd ac mi ydw i wir yn edrych ymlaen ato fo eto eleni. Mi gefais i ginio twrci mawr, a chracer hyd yn oed. Mi oeddwn i wedi fy synnu gan nad oeddwn i鈥檔 edrych ymlaen at y Nadolig, ond roeddwn i mor hapus ac yn mwynhau鈥檙 Nadolig eto.鈥

Mae Premier Care Plus, yn Oakenholt, yn darparu gofal cymdeithasol i oedolion sydd ag ystod o anghenion, gan gynnwys; pobl hyn a rhai sydd 芒 Dementia, anableddau dysgu, nam ar y synhwyrau a salwch meddwl. Mae鈥檙 cwmni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint am 10 mlynedd, yn darparu gofal a chymorth o safon i drigolion Sir y Fflint sydd 芒鈥檙 anghenion cymhleth hyn.

old lady at christmas mid.jpg