Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datganiad y Gyllideb 2020/21
Published: 18/12/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint yn croesawu鈥檙 Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2020/21 a gyhoeddwyd ddoe. Tra bod Sir y Fflint yn parhau i wynebu risgiau ariannol, ac mae鈥檔 rhaid i ni barhau gyda鈥檔 stiwardiaeth ariannol gref o鈥檙 Awdurdod, mae鈥檙 Setliad hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at ddod 芒 degawd o setliadau cyllideb cosbedigaethol ar gyfer llywodraeth leol i ben. 听
Mae Sir y Fflint yn croesawu鈥檙 berthynas sydd wedi ei hadnewyddu rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yng Nghymru - un sydd wedi ei seilio ar gyd ymddiriedaeth a pharch. Mae llais llywodraeth leol 鈥� a'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli unwaith eto yn cael ei glywed. Mae鈥檙 achos dros well cyllid i ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus lleol hanfodol eraill wedi ei ennill.
O dan y Setliad hwn fe fydd Sir y Fflint yn derbyn 拢10.406M yn ychwanegol o Gyllid Allanol Cyfun yn 2020/21. Mae hyn yn gynnydd o 3.7% o鈥檌 gymharu 芒 Setliad y flwyddyn flaenorol. Ar 么l caniat谩u ar gyfer costau ychwanegol sylweddol cyflogau athrawon a chyfraniadau cyflogwr ar gyfer pensiynau athrawon 鈥� sy鈥檔 gyfanswm o 拢3.76M 鈥� fe fydd gennym ni 拢6.54M o gronfeydd newydd i helpu tuag at gydbwyso ein cyllideb ar gyfer 2020/21. Fe fyddwn hefyd yn gweld cynnydd mewn rhai o鈥檙 grantiau penodol rydym yn eu derbyn ar gyfer gwasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol ac addysg.
Roedd y bwlch yn y gyllideb i鈥檞 bontio ar gyfer 2020/21 鈥� fel yr adroddwyd yng nghyfarfod y Cyngor yr wythnos ddiwethaf - tua 拢15.630M. Roeddem eisoes wedi llwyddo i sicrhau 拢8.164M o arbedion effeithlonrwydd ac incwm newydd i gyfrannu at y bwlch yng ngham cyntaf y gwaith o gynllunio ar gyfer y gyllideb. Unwaith y byddwn yn ystyried y cronfeydd newydd o 拢6.54M ac yn cwblhau ein gwaith ar yr ail gam o ran y dewisiadau effeithlonrwydd terfynol, rydym yn hyderus y byddwn mewn sefyllfa i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. Fel rhan o鈥檙 gwaith hwn o sicrhau cydbwysedd rydym yn anelu i osod rhai cronfeydd i鈥檙 naill ochr i鈥檔 hamddiffyn ein hunain yn erbyn rhai o鈥檙 pwysau parhaus o ran cost a fyddai fel arall yn drysu ein cyllideb yn ystod y flwyddyn.
Mae hyn yn llwyddiant sylweddol o ystyried y sefyllfa o risg y bu'r Cyngor ynddo am gymaint o amser. Rydym wedi dal ein tir o ran amddiffyn gwasanaethau lleol a swyddi lleol ac wedi bod yn un o'r cynghorau mwyaf llafar o ran brwydro'r achos i roi terfyn ar y cyfnod o lymder.
Rydym wedi bod yn bryderus yn arbennig ynglyn 芒 chynaliadwyedd ariannol ein hysgolion lleol. Tra rydym wedi osgoi gwneud y toriadau i gyllidebau ysgolion dirprwyedig y mae rhai cynghorau eraill wedi eu gorfodi i wneud, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn os yw ysgolion i rannu'r costau o ganlyniad i gynnydd mewn t芒l athrawon a chyfraniadau cyflogwr i bensiynau yna gall rhai gyrraedd pen eu tennyn yn fuan. Mae鈥檔 rhyddhad i ni ein bod yn gallu cadarnhau y bydd ysgolion yn cael eu gwarchod rhag y pwysau hyn o ran costau ac fe fyddant yn cael ychydig o gynnydd yn eu cyllidebau ar gyfer cyfleustodau a chostau eraill. Rydym nawr yn dymuno cynllunio ymlaen llaw fel y gall ysgolion weld peth twf yn eu cyllidebau yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen cynyddu鈥檙 cyfanswm rydym yn ei wario fesul disgybl yn Sir y Fflint a bod angen mwy o arian ar rai ysgolion ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw eu hadeiladau.
Rydym wedi lleisio barn yn erbyn gorfodi'r rhai sy鈥檔 talu Treth y Cyngor i dalu mwy o dreth lleol i lenwi鈥檙 bwlch yn dilyn gostyngiadau blynyddol mewn cyllid gan y llywodraeth yn ystod y cyfnod diweddar. Doedd gennym ni ddim dewis ond gosod Treth y Cyngor ar lefel uwch nag oeddem wedi ei fwriadu yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 duedd hon, sy'n peri gofid, o gynnydd blynyddol sylweddol yn Nhreth y Cyngor ddod i ben. Rydym yn bwriadu cadw鈥檙 cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer Sir y Fflint o dan 5% eleni.
O edrych ymlaen mae angen sicrwydd ar Sir y Fflint, a鈥檙 holl gynghorau eraill yng Nghymru, ynglyn 芒 chyllidebau'r dyfodol. Ni allwn fynd drwy'r cylch blynyddol hwn o gynllunio ar gyfer yr anhysbys - gyda'r holl ofid a phryder a ddaw yn sgil hyn i gynifer o bobl sy'n dibynnu arnom.
Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i osod rhagolygon tair blynedd ar gyfer cynlluniau gwariant cyhoeddus, i weithio gyda'r cenhedloedd datganoledig i gytuno ar gynlluniau twf realistig ar gyfer eu cyllidebau datganoledig, i sicrhau bod canfod datrysiad cenedlaethol i ariannu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth a gosod strategaeth genedlaethol ar gyfer ariannu dyfarniadau cyflog blynyddol y sector cyhoeddus.
Rydym yn gwahodd Llywodraeth Cymru i weithio yn fwy agos fyth gyda llywodraeth leol i amddiffyn a hybu鈥檙 gwasanaeth cyhoeddus sy鈥檔 allweddol i ddyfodol Cymru egn茂ol, iach a ffyniannus.
Bydd y Cyngor yn adolygu sefyllfa cyllideb y cyngor yn ei gyfarfod llawn ar 28 Ionawr ac yna bydd yn cymeradwyo ei gyllideb derfynol yn ffurfiol ac yn gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror.
Y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd听 听 听 听 听Y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet
Colin Everett, y Prif Weithredwr听听听 听听听听听听听听听听听 听听听 Gary Ferguson, Rheolwr Cyllid Corfforaethol
听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听听
听