Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwarchodfa Natur Shotton yn cael ei hadfywio
  		Published: 29/04/2015
Cwblhawyd prosiect wyth mis i adfywio Gwarchodfa Natur Taliesin yn Shotton.
Gan ddefnyddio dros £17,000 o arian y fenter Trefi Taclus, mae gwasanaeth cefn 
gwlad Sir y Fflint wedi gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Ty Ffynnon, Coleg 
Cambria, Cadwch Gymrun Daclus, McDonalds a Groundwork i adfer y warchodfa 
natur.
Mae’r holl lwybrau wedi cael arwyneb newydd, crëwyd llwybr a ramp newydd i Barc 
Gwepre, plannwyd 400 o fylbiau a choed ac mae hadau wediu gwasgaru ar ymylon y 
llwybr – dros ardal o 1,200 metr sgwâr. Roedd rhywogaethau hadau a wasgarwyd yn 
nap chwyn cyffredin, gludlys coch, gludlys gwyn, dim llygad y dydd llygadrwth, 
briallu, moron gwyllt, milddail, meillionen hopysaidd yn ogystal â chymysgedd 
blynyddol ar gyfer lliw ychwanegol.  Mae pwyntiau mynediad a cherrig marciwr 
hefyd wediu gosod.
Mae Trefi Taclus yn fenter Cadwch Gymrun Daclus a ariennir gan Lywodraeth 
Cymru ac a gefnogir gan awdurdodau lleol i wella amwynder, hygyrchedd a 
bioamrywiaeth ardaloedd sydd wedi dadfeilio.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros 
yr Amgylchedd:
“Hoffwn ddiolch ir holl ddisgyblion lleol, myfyrwyr, busnesau a gwirfoddolwyr 
sydd wedi rhoi eu hamser au cefnogaeth i’r prosiect cynaliadwy hwn sydd o fudd 
in hamgylchedd lleol. Diolch iddyn nhw a’r cyllid gan Drefi Taclus, mae 
Gwarchodfa Natur Taliesin yn edrych yn wych.
Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Cefn Gwlad: “Mae’r prosiect wedi bod yn 
llwyddiant gwirioneddol. Mae yna deimlad ffres newydd i’r safle ac mae adborth 
gan aelodau or cyhoedd wedi bod yn anhygoel. 
Ychwanegodd yr aelod ward lleol y Cynghorydd Ann Minshull:
“Da iawn i bawb syn cymryd rhan. Gydar gwanwyn ar ein gwarthaf, maen gyfle 
perffaith i bobl wneud y mwyaf or lle hyfryd hwn ac i fwynhau’r arddangosfa 
wych o flodau.
Llun
Maer placiau llechi bellach yn nodi’r fynedfa i Warchodfa Natur Taliesin: