天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pen-blwydd Sarah yn 100 oed!

Published: 16/12/2019

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig.听

Fe aeth y Cynghorydd Marion Bateman a鈥檌 Chymar, y Cynghorydd Haydn Bateman i gyfarfod 芒 Sarah Platt yng Nghartref Preswyl Croes Atti yn y Fflint.

Ganed Sarah, Hooson yn flaenorol, ar 8 Rhagfyr 1919 yn y Fflint, yr hynaf o ddau o blant.听 Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a hyfforddodd fel dynes trin gwallt, gan agor ei salon ei hun yn 17 oed. Roedd ei salon ar safle鈥檙 hen sinema Plaza yn y Fflint.

Yn 15 oed, dysgodd sut i yrru, ac yn ystod y rhyfel cafodd ei galw i yrru ambiwlans a thryciau yn y Llu Awyr Cynorthwyol y Menywod.听 Fe gwrddodd hi 芒 Norman, ei gwr yn ystod y rhyfel a chawsant ddau o blant, Margaret a Brian.听 Yn anffodus, bu farw Norman yn 44 oed ym 1962 a bu farw Brian ym mis Awst 2017.

Mae gan Sarah bump o wyrion ac wyresau, Helen, Fiona, Paul, Sarah a Vanessa, sy鈥檔 byw yn Iwerddon, ac mae ganddi chwech o or-wyrion a gor-wyresau. Roedd hi鈥檔 arfer mwynhau coginio a phobi, a dysgodd ei hwyrion ac wyresau sut i goginio.

听

Sarah Platt.jpg

听