Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu llwybrau yn arwain at gyflogaeth
Published: 26/11/2019
Cynhaliwyd dathliadau r gyfer y "10鈥 arbennig yn Sir y Fflint yn ddiweddar.
鈥樚煅纳缜 Firm Foundations鈥 yw鈥檙 10fed cwrs "llwybrau鈥 i'w gynnal gan d卯m Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint eleni.
Mae Llwybrau yn cynnig cyfle i breswylwyr lleol ennill hyfforddiant, sgiliau a phrofiad mewn maes cyflogaeth penodol, ac sydd hefyd yn cynnwys cymorth gyda drafftio CV a gweithdy magu hyder.
Mae鈥檙 cyrsiau hyn, sydd am ddim, wedi bod yn boblogaidd iawn, ac wedi cynnwys meysydd cyflogaeth megis manwerthu, gofal plant, gofal cymdeithasol, adeiladu, arlwyo, sgiliau garddwriaethol ac achubwr bywydau.听听
Ers mis Ebrill eleni, mae dros 83 o bobl wedi elwa o鈥檙 profiad hwn, ac mae sawl un wedi canfod gwaith hefyd o ganlyniad.听听
Mae鈥檙 llwybr diweddaraf, 天涯社区 Firm Foundations, yn llwybr adeiladu, sy鈥檔 cael ei gynnal gan Cymunedau am Waith a Mwy, a鈥檜 partner, Wates Construction.听 Cafodd y cyfranogwyr fwynhad o鈥檙 daith o amgylch safle adeiladu Maes Gwern yn yr Wyddgrug, cymryd rhan mewn sesiynau blasu, gan gynnwys gwaith coed a phlymio, a chwblhau eu cymhwyster Iechyd a Diogelwch Lefel 1 yn y maes adeiladu.听 Cawsant amser i baratoi i gymryd eu prawf CSCS (mae angen cerdyn CSCS i ddangos fod ganddynt y cymwysterau a鈥檙 hyfforddiant priodol i weithio ar safle adeiladu).
Maent hefyd wedi cael cyngor ar sut i fynd i mewn i'r diwydiant adeiladu gan arbenigwyr yn y maes.听听
Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a鈥檙 Economi Cyngor Sir y Fflint:听
鈥淒yma lwyddiant gwych, ac rwy鈥檔 falch o fod yma heddiw i ddathlu鈥檙 llwybr penodol hwn sydd yn ei ddegfed flwyddyn.听 Ers i鈥檙 cyrsiau hyn ddechrau, maent wedi mynd o nerth i nerth ac maent yn darparu ffordd effeithiol iawn o ymgysylltu pobl 鈥 mae鈥檙 ffaith bod gymaint wedi cymryd rhan ac wedi canfod gwaith wedyn yn profi hynny.听 Maent yn gyfle da i bobl ennill profiad a sgiliau a chymryd mantais o sesiynau blasu, a'r profiad gwaith sydd ar gael."
Meddai Dave Saville, Cyfarwyddwr yr Uned Fusnes, Wates Construction North West:
鈥淩ydym ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ers 2015, yn darparu ein rhaglen dai mewn partneriaeth i ddod 芒 500 o dai newydd i鈥檙 sir. Drwy gydol y bartneriaeth hon rydym ni wedi cydweithio i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i bobl leol er mwyn eu helpu i gael gwaith hirdymor. 天涯社区 Firm Foundations yw鈥檙 cwrs diweddaraf sydd wedi鈥檌 ddylunio i roi hwb i yrfaoedd newydd ac mae鈥檔 bleser gennym fod yn rhan o raglen sydd 芒鈥檙 potensial i newid bywydau.鈥
Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith a Mwy, i helpu鈥檙 oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith.听 听Mae鈥檙 rhaglen yn targedu oedolion sy鈥檔 economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hir dymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar draws Sir y Fflint.听 Mae鈥檔 ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal 芒鈥檜 helpu i ddod o hyd i, neu wella eu gobaith o ddod o hyd i waith.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Nia Parry neu Janiene Davies o Cymunedau am Waith a Mwy ar 01352 704430 neu anfonwch e-bost at: nia.parry@flintshire.gov.uk / janiene.davies@flintshire.gov.uk.

听
Kevin Corness, Janiene Davies, Angie Eardley, Simon Humphrey, Nia Parry, David Williams, Darren Hildebrandt, Andrew Farrow, Leon O鈥橤ormon, Jordan Kirby, Adain Hamzah, Arron James, Russel Mills, Dave Saville听
听
听
听
听
听
听