Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobr genedlaethol ar gyfer ysgol iach leol
Published: 21/11/2019
Mae ysgol uwchradd leol wedi cyflawni鈥檙 Wobr Ansawdd Genedlaethol gan Ysgolion Iach.
Ysgol Uwchradd Penarl芒g yw鈥檙 ail ysgol uwchradd yn Sir y Fflint i gyflawni鈥檙 Wobr Ansawdd Genedlaethol a鈥檙 21ain ysgol uwchradd yng Nghymru.
Mae'r Cynllun Ysgolion Iach yn fenter genedlaethol a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae鈥檔 cydnabod ymrwymiad ysgol i iechyd a lles.
Rhoddodd aelodau o鈥檙 Cyngor Ysgol gyflwyniad ar y gwaith sydd wedi cael ei gyflawni gan gymuned yr ysgol, gan ddangos cyfranogiad y disgyblion wrth weithio tuag at gyflawni鈥檙 wobr hon.
Wrth gyflwyno鈥檙 Wobr i鈥檙 ysgol, dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman:
鈥淵 Wobr Ansawdd Genedlaethol yw鈥檙 acol芒d uchaf yn y cynllun.听 Mae鈥檔 bwysig iawn ein bod yn cydnabod y gwaith ardderchog sydd wedi cael ei gyflawni ers dros ddegawd yn Ysgol Uwchradd Penarl芒g a dathlu eich cyflawniad heddiw.听 Mae鈥檔 braf clywed yr hyn sy鈥檔 cael ei gyflawni i hyrwyddo holl agweddau iechyd gwahanol ar draws yr ysgol a chlywed bod cymaint o gyfranogiad gan ddisgyblion wth ddatblygu鈥檙 gwaith.鈥
Dywedodd Simon Budgen, pennaeth yr ysgol:听
鈥淩wy鈥檔 hynod o falch o gyflawniad yr ysgol drwy gydweithio, a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a鈥檜 hymrwymiad.听 Mae heddiw鈥檔 amlygu gwaith t卯m ardderchog ein holl ddisgyblion ac athrawon, ac rwy'n hynod o falch o fod yr ail ysgol yn sir y Fflint i dderbyn y wobr hon - da iawn i bawb sy'n gysylltiedig. 鈥
Roedd y Cynllun Ysgolion Iach wedi鈥檜 plesio鈥檔 fawr gydag Ysgol Uwchradd Penarl芒g, a dywedodd Linda Lewis, y prif ddilysydd, yn yr adroddiad:
鈥淢ae iechyd a lles wedi cael eu plethu i bob agwedd ac elfen o fywyd yr ysgol, gan gynnwys y cwricwlwm, amgylchedd yr ysgol, perthnasau o fewn ac ar draws yr ysgol a gyda grwpiau allanol ac asiantaethau, roedd yn bleser ac yn fraint bod yn dyst ... Yn sicr, mae Ysgol Uwchradd Penarl芒g yn ysgol sy鈥檔 hyrwyddo iechyd ac yn llwyr haeddiannol o鈥檙 Wobr Ansawdd Genedlaethol.鈥
Gellir dod o hyd i鈥檙 ddolen i adroddiad llawn Ysgolion Iach (https://www.hawardenhigh.org.uk/wp-content/uploads/2019/11/Healthy-School-Report-1.pdf).

听
听
听
听
听
听
听