Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae archifau Cymru yn gartref i gyfoeth o drysorau 鈥 ydych chi鈥檔 barod i archwilio?
Published: 18/11/2019
Mae archifau ledled Cymru yn paratoi at ddathlu ac arddangos eu gwasanaethau a chasgliadau ar gyfer wythnos Archwilio Eich Archifau, sydd eleni鈥檔 cael ei gynnal rhwng 23 a 30 o Dachwedd.
Mae鈥檙 ymgyrch wythnos yn annog pobl i ddarganfod y stor茂au, ffeithiau, lleoedd a鈥檙 bobl sydd wrth wraidd cymunedau yng Nghymru. Fel rhan o鈥檙 dathliadau, bydd llawer o archifdai yn cynnal gweithgareddau arbennig ac yn croesawu鈥檙 cyhoedd i brofi, deall ac ymfalch茂o yng nghyfoeth ac amrywiaeth y deunyddiau sydd ganddynt.
Bydd Llysgenhadon Archif arbennig, sydd wedi gwneud defnydd personol a phroffesiynol o gasgliadau a gwasanaethau mewn archifdai ar draws Cymru, yn lansio鈥檙 wyl ym Mandstand Aberystwyth ar nos Lun 25 Tachwedd.
Mae Colin Sheady, gwirfoddolwr yn Archifdy Sir y Fflint a Llysgennad Archif wedi cynorthwyo gyda nifer o brosiectau yn ddiweddar, gan gynnwys mynegeio ceisiadau Cynllunio Sir y Fflint. Dywed Colin 鈥渕ae'r gwaith rwy'n ei wneud yn hynod o werth chweil i mi. Rwy鈥檔 cael darganfod enwau teuluoedd a fyddai wedi eu anghofio fel arall, mae digwyddiadau arwyddocaol a helpodd i siapio鈥檙 dirwedd ar gael yn rhwydd ar flaenau fy mysedd, ac mae cynnydd a chwymp diwydiannau yn digwydd o flaen fy llygaid.鈥
Fel rhan o Archwiliwch Eich Archifau, bydd nifer o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal mewn archifau ledled Cymru 鈥 o sgyrsiau a helfeydd trysor, i arddangosiadau ffilm a gweithdai creadigol. Eleni mae Archifdy Sir y Fflint yn cymryd rhan yn ochr cyfryngau cymdeithasol yr ymgyrch trwy godi ymwybyddiaeth o archifau trwy ymuno yn yr ymgyrch # ddyddiol. Cymerwch olwg ar dudalen Facebook Archifdy Sir y Fflint (https://www.facebook.com/天涯社区RecordOffice) bob dydd rhwng 23 Tachwedd 23 a Rhagfyr 1 i weld ffotograff gwahanol i'r archifau.
Mae archifdai Cymru yn gwarchod ystod eang o eitemau, yn amrywio o flew dynol i ryseitiau teuluol, llythyrau caru i hanesion llafar. Bydd llawer o'r gwrthrychau rhyfeddol yma yn cael eu hamlygu yn ystod wythnos Archwilio Eich Archif mewn ymgyrch ddigidol fywiog.
Dywedodd Vicky Jones, Rheolwr Prosiect a Hyfforddiant Archifau a Chofnodion Cymru:听
鈥淣od Archwiliwch Eich Archifau yw ysbrydoli pobl i ddysgu mwy am rai o鈥檙 stor茂au treftadaeth anhygoel sydd ar eu trothwy, a hynny drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau. Byddwn yn eich annog i ymchwilio i鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd yn eich ardal leol er mwyn i chi ddechrau archwilio a darganfod!鈥
I ddechrau archwilio ewch i'ch gwasanaeth archif lleol neu
Er mwyn cael mwy o wybodaeth, cyfweliadau a lluniau cysylltwch ag: Claire Harrington, Y Prif Archifydd, Archifdy Sir y Fflint, archives@flintshire.gov.uk 听 听#ArchwilioArchifau
听