天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog Llywodraeth Cymru yn agor Cynllun Gofal Ychwanegol sydd wedi ennill Gwobrau yn Swyddogol 

Published: 05/11/2019

Daeth Hannah Blythyn AC a Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol i agor Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Raddington heddiw (1 Tachwedd) 鈥 sef tai byw'n annibynnol arloesol i bobl hyn yng nghanol Fflint, Gogledd Cymru.听

Cymdeithas Dai ClwydAlyn sydd yn berchen ar y datblygiad 拢10 miliwn, sydd yn elfen allweddol o waith adfywio canol tref y Fflint, a chaiff ei reoli mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint.听

Cafodd Ms Blythyn ei thywys o amgylch Llys Raddington sydd yn cynnwys 73 o fflatiau hunangynhwysol gydag un a dwy ystafell wely, bwyty, lolfa ystafell haul ar y llawr uchaf yn edrych allan dros y dref, yn ogystal ag ystafell wely i westeion ac ystafelloedd ymolchi 芒 chymorth.

Caiff preswylwyr eu cefnogi gan d卯m o weithwyr gofal proffesiynol sydd ar y safle bob awr o鈥檙 dydd, ac sydd yn cefnogi pobl sydd yn byw gyda dementia.听

Cafodd y datblygiad sydd 芒 balcon茂au a gardd hyfryd ei ariannu gan ClwydAlun, ynghyd 芒 chymorth grant amhrisiadwy gan Lywodraeth Cymru, a sicrhawyd mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint.听

Dechreuodd y gwaith ar y datblygiad, a ddyluniwyd gan Benseiri John McCall ac a adeiladwyd gan Anwyl Construction yn 2016, ac fe symudodd y preswylwyr cyntaf i mewn ym mis Tachwedd 2018.

Yn 么l y preswylwyr mae ganddynt ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned tra鈥檔 gallu cadw eu preifatrwydd a鈥檜 hannibyniaeth eu hunain. 鈥淒wi鈥檔 hoffi鈥檙 teimlad o ddiogelwch yma a bod cymorth wrth law pan fo鈥檌 angen,鈥 meddai Jacqueline Jones a symudodd i Llys Raddington ar y diwrnod yr agorodd y cynllun.

鈥淢ae鈥檙 lleoliad yn ardderchog gan ei bod hi鈥檔 hawdd picio mewn i鈥檙 dref. Merch leol o鈥檙 Fflint ydw i ac mae parhau i fod yn rhan o鈥檙 gymuned yn bwysig iawn i mi.鈥

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint a groesawodd y Dirprwy Weinidog:

鈥淢ae ailddatblygu ac adfywio鈥檙 Fflint wedi bod yn gyfle gwych i wella canol ein tref ac mae鈥檙 cynllun gofal ychwanegol modern yma鈥檔 goron ar y cwbl.听 Mae鈥檔 ardderchog ac mae pob preswylydd dwi wedi siarad 芒 nhw yn hapus iawn yma.听 Diolch i bawb sy'n gysylltiedig.鈥

Dywedodd Stephen Porter, Cadeirydd ClwydAlun a groesawodd Hannah Blythyn i鈥檙 datblygiad: 鈥淢ae鈥檙 cynllun wedi bod yn rhan hanfodol o drawsnewid y Fflint ers y dechrau. Mae鈥檔 leoliad perffaith ar gyfer y tai arbenigol yma i bobl hyn, gan alluogi iddynt fyw鈥檔 annibynnol gyda mynediad at holl gyfleusterau canol y dref sydd ar stepen eu drws, gyda thawelwch meddwl y gefnogaeth broffesiynol y mae鈥檙 awdurdod lleol yn ei ddarparu.听

鈥淢ae鈥檙 ffaith fod y cyfleuster gwych yma鈥檔 bosibl oherwydd cydweithio effeithiol iawn yn drawiadol iawn.听

鈥淵n ogystal 芒 darparu lle gwych i鈥檔 preswylwyr fyw, mae鈥檙 datblygiad wedi rhoi hwb i鈥檙 ardal leol, gan greu swyddi ac annog ymgysylltu gydag ysgolion lleol, cymdeithasau celf a busnesau lleol.听

Dywedodd Clare Budden, Prif Weithredwr ClwydAlun: 鈥淩ydym ni鈥檔 arbennig o falch o gynllun tai gofal ychwanegol Llys Raddington ac mae wedi bod yn anrhydedd gweld y gwahaniaeth y mae鈥檙 fenter wedi鈥檌 wneud i iechyd a lles ein preswylwyr a鈥檜 teuluoedd.听

鈥淢ae鈥檙 fflatiau hunangynhwysol yn caniat谩u i denantiaid fod mor breifat neu mor gymdeithasol ag y maent yn dymuno er mwyn iddynt allu byw ag urddas ac annibyniaeth tra鈥檔 cael y gefnogaeth unigol maent ei angen.鈥

Dywedodd Ms Blythyn: 鈥淢ae wedi bod yn bleser agor Llys Raddington yn swyddogol gan alluogi preswylwyr i gadw eu hannibyniaeth tra鈥檔 darparu t卯m o weithwyr proffesiynol iddynt bob awr o鈥檙 dydd.听 Mae鈥檔 gyfleuster ardderchog sydd yn bosibl trwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac mae鈥檔 dangos ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy.鈥澨

听 听 听听 Hannah Blythyn-52.jpg

Hannah Blythyn-55.jpg

Hannah Blythyn-40.jpg