Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn dathlu lleoliadau cyn-ysgol iach
Published: 29/10/2019
Yn ddiweddar, cynhaliwyd ail Ddathliad Llwyddiant Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy (HSPSS) Sir y Fflint.
Roedd y digwyddiad yn cydnabod llwyddiannau lleoliadau cyn-ysgol ym mhob agwedd o鈥檙 cynllun a鈥檜 hymrwymiad i iechyd a lles plant.听
Mae鈥檙 HSPSS yn fenter genedlaethol a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a鈥檌 gydlynu yn Sir y Fflint gan d卯m o Swyddogion Ysgolion a Chyn-Ysgol Iach yn y portffolio Addysg ac Ieuenctid.
Ar hyn o bryd mae 45 lleoliad yn cymryd rhan yn y cynllun yn Sir y Fflint ac maent i gyd yn gweithio tuag at hyrwyddo ac amddiffyn pob agwedd o iechyd gan gynnwys: gweithgarwch corfforol, maeth ac iechyd y geg, iechyd a lles emosiynol, diogelwch, hylendid a lles eu staff.听
Trefnwyd y digwyddiad gan Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid a rhoddwyd cyflwyniad gan Sid Madge o鈥檙 rhaglen MEEE.
Cyflwynwyd y Gwobrau gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Marion Bateman, gyda鈥檌 Chymar, y Cynghorydd Haydn Bateman.听 Dywedodd y Cynghorydd Bateman:听
听鈥淩wyf wrth fy modd yn cael cyflwyno'r gwobrau hyn heno.听 Mae鈥檔 bleser gweld cymaint o leoliadau cyn-ysgol yn dangos eu hymrwymiad i hyrwyddo iechyd a lles. Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad gwych a chalonogol 鈥 da iawn bawb a gymerodd ran.鈥澨
Y lleoliadau cyn-ysgol sydd wedi cwblhau鈥檙 cynllun yn llawn yn 2019 yw: Meithrinfa Ddydd Hope Green, Meithrinfa Ddydd Buttercups, Sue Formstone a Meithrinfa Ddydd First Steps.听听
Y lleoliadau sydd wedi cael asesiad llwyddiannus ar gyfer un neu fwy o鈥檙 them芒u iechyd o fewn y flwyddyn ddiwethaf yw:听 Clwb Gofal Plant Bryn Coch, Cylch Meithrin Terrig, Yr Wyddgrug, Pam Nicholls, Meithrinfa Ddydd Podlings, Lleoliad Cyn-ysgol Sandycroft, Meithrinfa Ddydd Little Stars, Stephanie Mckie, Little Monsterz.听

听
听
听
听
听
听
听