Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybr i Ofal Plant
Published: 28/10/2019
Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint wedi darparu llwybr i gyflogaeth llwyddiannus arall. Mae鈥檙 llwybr i Ofal Plant wedi rhoi cyfle i bobl leol ennill yr hyfforddiant a'r sgiliau angenrheidiol i ddechrau eu gyrfa yn y sector Gofal Plant.
Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, mae鈥檔 helpu鈥檙 oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith. Mae鈥檙 rhaglen yn targedu oedolion sy鈥檔 economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hir dymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar draws Sir y Fflint. Mae鈥檔 ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal 芒鈥檜 helpu i ddod o hyd i, neu wella eu gobaith o ddod o hyd i waith.
Roedd y llwybr, a gynhaliwyd dros bythefnos, yn cynnwys hyfforddiant achrededig ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys; Cymorth Cyntaf Pediatrig, Iechyd a Diogelwch, Diogelwch Bwyd, Diogelu a Chyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc, Y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant. Roedd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint hefyd ar gael i gynnig cefnogaeth a chanllawiau i gyfranogwyr mewn perthynas 芒 llwybrau gyrfa a swyddi gwag yn y sector.听 听
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
鈥淢ae鈥檙 cyrsiau "llwybr" hyn yn gyfle gwych i bobl ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith mewn sector sydd o ddiddordeb iddynt. Nid yn unig mae鈥檙 cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, gallant hefyd fanteisio ar y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.鈥澨
Newyddion da hyd yma 鈥 mae un o鈥檙 sawl a gymerodd rhan yn y rhaglen llwybrau wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau r么l Prentis Cynorthwyydd Addysgu yn Ysgol Gynradd Queensferry, sy鈥檔 newyddion gwych!
Am wybodaeth bellach ynghylch Cymunedau am Waith, neu os hoffech chi gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r rhaglenni llwybr, cysylltwch 芒'r swyddfa ar 01352 704430.
听

Nia Parry -听 Cymunedau am Waith, Paula Colledge, Edyta Wasiak, Rhianna Jones, Alexandra Foster, Sian Williams, Laura Gelder, Imogen Sillah, Shannon Latham ac Louise Stokes (Groundwork)
听
听
听
听
听
听
听
听