Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mwy o goed i Sir y Fflint
Published: 24/10/2019
Rydym ni rwan ar ein hail aeaf o blannu coed ar gyfer Sir y Fflint.
Mae鈥檙 gwaith plannu a鈥檙 coed wedi鈥檜 hariannu drwy gyllid grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gynyddu鈥檙 brigdwf yn ein trefi sydd 芒鈥檙 ganran isaf o goed. Mae鈥檙 plannu yn rhan o brosiect i gyrraedd targedau Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol Cyngor Sir y Fflint, sef cynyddu鈥檙 brigdwf trefol yn Sir y Fflint o 14.5% i 18% erbyn 2033.
Hwn yw鈥檙 cam olaf, yn dilyn polau piniwn, digwyddiadau ymgysylltu a sgyrsiau i gytuno ar safleoedd a chynlluniau plannu.听听
Rydym ni鈥檔 falch iawn o allu gwella lleiniau a鈥檔 mannau gwyrdd. Mae coed a blodau gwyllt yn dda i fywyd gwyllt a phobl, a gall wneud gwahaniaeth go iawn i'r ffordd rydym ni鈥檔 defnyddio gofodau.
Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淢ae鈥檔 braf gallu parhau 芒鈥檙 cynllun plannu coed yng Nghei Connah fel rhan o鈥檔 strategaeth coed trefol. Mae coed yn bwysig iawn i fynd i'r afael 芒'r newid yn yr hinsawdd; maent yn amsugno llygryddion ac yn darparu ocsigen, yn creu cynefinoedd i adar a phryfaid, canopi a chysgod, ac maent yn ychwanegu amgylchedd mwy naturiol at ardaloedd trefol gan roi'r ymdeimlad o les.听
鈥淢ae graddfa鈥檙 clefyd coed ynn yn ddifrodus ac wedi effeithio ar filoedd o goed yn Sir y Fflint, felly mae'n fwy pwysig fyth ein bod ni鈥檔 plannu amrywiaeth o rywogaethau newydd yn ein sir.鈥澨
Plannwyd y coed mewn tri lleoliad ar Ffordd yr Wyddgrug yr wythnos hon, wrth ymyl Machynlleth Way, Wharfdale Avenue a Clivedon Road. Roedd y coed yn cynnwys coed pisgwydd, lliwefr, derw a choed cyll. Dewiswyd y coed hyn oherwydd eu harddwch tymhorol a鈥檜 cadernid, ac nad ydynt yn gofyn am lawer o waith cynnal a chadw.听听
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Dunbar, Aelod Ward:听
鈥淩ydym yn falch o weld bod y coed eisoes yn cael effaith, ac rydym ni鈥檔 edrych ymlaen at weld y coed yn aeddfedu a mwynhau鈥檙 manteision y deuant i鈥檙 gymuned.鈥
听

Llun: T卯m Cadwraeth, gwirfoddolwyr, y Cynghr. Andy Dunbobbin, Paul Shotton, Peter Davies (Is-Gadeirydd Cyngor Tref Cei Connah), Ian Smith (Cadeirydd Cyngor Tref Cei Connah) ac Ian Dunbar
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听