Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu Strategaeth Gaffael
Published: 24/10/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint ar fin adolygu ei Strategaeth Gaffael yng nghyfarfod y Cabinet ar 22 Hydref.
Mae鈥檙 Cyngor yn gwario oddeutu 拢198 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau ac adeiladu.听 Er bod y cyngor eisiau ansawdd da a gwerth am arian gan gontractwyr o hyd, gall gyflawni nodau ehangach drwy sut y mae鈥檔 cyfeirio鈥檙 gwariant hwnnw.听 Mae鈥檙 Strategaeth Gaffael yn nodi鈥檙 nodau ychwanegol hynny y mae鈥檔 bwriadu eu cyflawni yn ogystal 芒 gosod targedau perfformiad y T卯m Caffael, a rennir gyda Cyngor Sir Ddinbych.
Mae diwygiadau arfaethedig i'r strategaeth yn gosod mwy o bwyslais ar brynu'n lleol, o fewn Sir y Fflint ei hun a'r ardal ehangach o fewn Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, fel bod mwy o鈥檙 gwariant yn mynd yn 么l i鈥檙 economi leol a鈥檙 busnesau sy'n cyflogi preswylwyr Sir y Fflint.听 Mae鈥檔 gwneud cysylltiadau gyda pholis茂au ehangach a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar sicrhau nad yw ei gadwyn gyflenwi yn cefnogi ymarfer anfoesol, a鈥檙 gofyn bod contractwyr yn 鈥渞hoi rhywbeth yn 么l i鈥檙 gymuned" drwy ei bolisi gwerth cymdeithasol.
Mae鈥檙 strategaeth arfaethedig yn nodi sut bydd y Cyngor yn dechrau cyflawni ei nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Bydd cyfran helaeth o 么l troed carbon y Cyngor yn cael ei gynhyrchu gan y nwyddau a鈥檙 gwasanaethau y mae鈥檔 ei brynu, felly yn y dyfodol bydd yn gofyn i鈥檞 gontractwyr weithio i leihau eu hallyriadau carbon eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:
鈥淢ae鈥檔 bwysig bos Sir y Fflint yn gwario ei arian mewn ffordd sy鈥檔 cefnogi ac yn hyrwyddo ei werthoedd a鈥檌 nodau.听
鈥淢ae鈥檙 Cyngor eisiau adeiladu economi leol gref, lle mae鈥檙 gweithwyr sy鈥檔 darparu gwasanaethau ar ran y Cyngor yn cael eu trin yn dda, a lle nad yw鈥檙 nwyddau a鈥檙 gwasanaethau y mae鈥檔 ei brynu'n niweidio鈥檙 amgylchedd neu鈥檔 cyfrannu at gynhesu byd-eang.听 Mae鈥檙 diwygiadau i鈥檙 Strategaeth Gaffael hon yn ategu鈥檙 ymrwymiadau hynny a bydd yn helpu i鈥檞 gweithredu.鈥
听