天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Strategaeth Tai a鈥檙 Cynllun Gweithredu

Published: 18/10/2019

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad ar y Strategaeth Tai a鈥檙 Cynllun Gweithredu yn ei gyfarfod ar 22 Hydref.

Mae鈥檙 Strategaeth Tai a鈥檙 Cynllun Gweithredu yn amlinellu uchelgais y Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy a chefnogaeth o ran tai i鈥檔 preswylwyr sy'n wynebu'r angen mwyaf.

Mae鈥檙 Cyngor wedi ymrwymo i鈥檙 egwyddor fod cartref o ansawdd da yn greiddiol i les yr unigolyn a鈥檙 gymuned a bydd yn parhau i alluogi鈥檙 ddarpariaeth o gartrefi priodol a fforddiadwy, yn arbennig i'r rhai sy鈥檔 wynebu'r angen mwyaf. Mae鈥檙 Strategaeth Tai a'r Cynllun Gweithredu yn amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu cyflawni hyn drwy gydweithio gyda phartneriaid strategol mewn ffordd ddeallus a dyfeisgar i gyflawni ei weledigaeth.

O ganlyniad i鈥檙 gweithgaredd a amlinellwyd yn Strategaeth Tai flaenorol y Cyngor, fe ddarparwyd dros 400 o dai fforddiadwy newydd ar gyfer eu rhentu ac ar gyfer perchnogaeth. Mae鈥檙 Strategaeth newydd yn rhoi manylion ynglyn 芒鈥檙 prif flaenoriaethau a鈥檙 camau gweithredu ar gyfer darparu, gan gynnwys y tair blaenoriaeth allweddol canlynol:

  • Cynyddu'r cyflenwad i ddarparu'r math cywir o dai yn y lleoliad cywir;
  • Darparu cefnogaeth i sicrhau fod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref; a
  • Gwella ansawdd a chynaliadwyedd ein cartrefi.

听

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Dave Hughes

鈥淩ydym yn edrych ymlaen i weithio gyda'n partneriaid i gyflawni ein gweledigaeth o ran darparu'r math cywir o gartrefi o ansawdd a'r gefnogaeth fwyaf priodol i ddiwallu anghenion ein preswylwyr o ran tai."

听