Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arosfa
Published: 18/10/2019
Mae Gweithredu dros Blant wedi llwyddo i ddarparu cyfleuster gwyliau byr ar gyfer plant a phobl ifanc 5 i 19 oed gydag anableddau a鈥檜 rhieni yn Arosfa, Cartref Plant cofrestredig yn yr Wyddgrug. Darperir llety dros nos i鈥檙 rhai sydd angen gofal arbenigol hefyd.
Mae cynlluniau i adnewyddu adain o鈥檙 adeilad nad yw鈥檔 cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd er mwyn darparu gofod ar gyfer dau wely ychwanegol ar y safle, er mwyn lletya dau breswylydd hirdymor. Byddai hyn yn darparu gwasanaeth lleol o safon, yn hytrach na lleoliadau tu allan i鈥檙 sir, ac yn cyd fynd 芒鈥檙 ddarpariaeth seibiant byr presennol i hyd at dri o blant.
Gyda鈥檌 gilydd, bydd y cynlluniau yn ein galluogi i gefnogi pum plentyn ar un tro.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol;
鈥淢ae鈥檙 gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc dreulio amser tu hwnt i鈥檙 cartref, gan eu paratoi nhw ar gyfer byw yn annibynnol yn y dyfodol, a chyfle i rieni a gofalwyr dreulio amser gwerthfawr gydag aelodau eraill o鈥檙 teulu.
鈥淏ydd y gofod ychwanegol yn Arosfa yn darparu gwasanaeth lleol, cost effeithiol, safonol, ac yn opsiwn amgen i leoliadau tu hwnt i鈥檙 sir.鈥
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad yn argymell cyllid i gynorthwyo鈥檙 gwaith adeiladu ac adnewyddu sydd ei angen yn Arosfa, yn ei gyfarfod ar 22 Hydref.
听