Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith i wella ysgol yn gwneud cynnydd da
Published: 09/10/2019
Mae gwelliannau i ysgol gynradd yn Sir y Fflint wedi symud cam yn agosach, gyda seremoni 鈥渁rwyddo trawst鈥 yn ddiweddar.
Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi dros 拢2.3m i drawsnewid Ysgol Glan Aber yn ysgol sy鈥檔 addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae hyn yn cynnwys 拢1.3m o nawdd Llywodraeth Cymru i ostwng maint dosbarthiadau babanod trwy greu ystafell ddosbarth ychwanegol, a fydd yn caniat谩u i鈥檙 athrawon roi mwy o amser a sylw unigol i bob un o鈥檜 disgyblion. 听 Bydd y nawdd hefyd yn darparu neuadd newydd a chyfleusterau bwyta.
Mae鈥檙 Cyngor wedi penodi cwmni lleol Kier Construction, a leolir yn Wrecsam i ymgymryd 芒鈥檙 gwaith gwella hwn.听 Mae鈥檙 cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru a rhaglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor.听听听
Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard:
"Mae鈥檙 buddsoddiad hwn yn bwysig iawn i Ysgol Glan Aber ac yn dangos fod Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i wella a diweddaru ein hysgolion. Bydd y cyfleusterau modern hyn ar gyfer ein pobl ifanc a鈥檙 gymuned ehangach yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig newydd i鈥檔 plant ysgol."
Dywedodd Peter Commins, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Kier Regional Building North West:
鈥淩ydym yn hynod falch o gael parhau ein perthynas 芒 Sir y Fflint. Bydd y gwelliannau hyn yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu modern i staff a disgyblion yr ysgol am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
"Rwy鈥檔 falch iawn o glywed fod y gwaith yn dechrau ar y cyfleusterau newydd yn Ysgol Glan Aber, sy鈥檔 hyrwyddo gwelliannau hanfodol ar draws ysgolion Cymru.
"Mae gwaith ymchwil a thystiolaeth ar draws y byd yn nodi fod dosbarthiadau llai yn cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad, yn arbennig ar gyfer ein disgyblion ieuengaf, y rheiny o gefndiroedd mwy difreintiedig a鈥檙 rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol.
"Mae鈥檙 buddsoddiad hwn yn hollol angenrheidiol os ydym am ddarparu鈥檙 amgylchedd y mae disgyblion yn eu haeddu, yn ogystal 芒鈥檜 cefnogi i gyflawni eu huchelgeisiau. Mae hyn yn ganolog i鈥檔 cenhadaeth i godi safonau, lleihau鈥檙 bwlch o ran cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy鈥檔 destun balchder a hyder cenedlaethol."听
听

听
听
听
听
听
听
听