Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canol Tref Treffynnon 鈥 Mynd i鈥檙 Afael â Heriau Stryd Fawr yr 21ain Ganrif
Published: 01/10/2019
Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Sir y Fflint gan Lywodraeth Cymru i gefnogi鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud i gysylltu llwybrau beicio Dyffryn Maes Glas gyda chanol tref Treffynnon ar ei newydd wedd.
Bydd cyllid Llywodraeth Cymru, a ddarperir drwy鈥檙 Gronfa Targedu Buddsoddiad Adfywio a鈥檙 Gronfa Teithio Llesol, yn cyfateb buddsoddiadau gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Treffynnon. Bydd y prosiect hwn hefyd yn gweld ardal ddigwyddiadau canol tref newydd yng Ngerddi鈥檙 Twr a strydlun newydd ar gyfer canol y dref.
听鈥淏ydd llwybrau beicio a gwell mynediad yn cefnogi ac yn gwella bywiogrwydd a hyfywedd canol y dref a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnwys llwybr beicio penodol o Ffordd Bagillt i Whitford Street.
鈥淢ae鈥檙 prosiect hwn yn digwydd ar yr un pryd 芒 menter a gefnogir gan Fforwm Fusnes Treffynnon i fywiogi鈥檙 stryd fawr. 听Mae cyllid ar gael i fusnesau lleol i鈥檞 fuddsoddi ym mlaen eu siopau. 听Mae hyn yn cael ei gyllido ar y cyd gan bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Treffynnon.
鈥淕yda mynediad a pharcio haws i hwyluso pethau a鈥檙 atyniad ychwanegol o arena ddigwyddiadau lleol orchuddiedig, gall Treffynnon wynebu heriau stryd fawr y 21ain ganrif gyda mwy o hyder.鈥
Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau cyn y Nadolig a bydd angen cau'r Stryd Fawr am gyfnod byr er mwyn caniat谩u i鈥檙 gwaith fynd yn ei flaen yn gyflym. Anogir trigolion lleol i barhau i ymweld 芒'r stryd fawr ac estyn eu cymorth i fusnesau lleol wrth i鈥檙 gwaith fynd yn ei flaen.