Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn ennill y Wobr Aur!
Published: 26/09/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn Gwobr Aur gan Gynllun Cydnabod Cyflogwr y Weinyddiaeth Amddiffyn.听
Y wobr aur yw anrhydedd fwyaf y cynllun. Mae Cyngor Sir y Fflint yn un o gant o gyflogwyr, ac yn un o 23 o awdurdodau lleol yn y DU, sydd wedi'i gydnabod gan y Gweinidog dros Amddiffyn, Ben Wallace, am ei gefnogaeth anhygoel i gymuned y Lluoedd Arfog drwy dderbyn Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwr. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno ar 12 Tachwedd 2019 yn Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin yn Llundain.听
I gyflawni鈥檙 Wobr Aur, mae鈥檔 rhaid i gyflogwyr ddangos nad yw cymuned y Lluoedd Arfog yn cael ei thin dan anfantais yn y gweithle. Mae cymuned y Lluoedd Arfog yn cynnwys milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd.
Meddai鈥檙 Cyng. Andrew Dunbobbin, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir y Fflint:听
鈥淩ydym ni鈥檔 hynod o falch ein bod ni wedi derbyn y Wobr Aur yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a chymuned y Lluoedd Arfog. Mae cael ein gweld fel cyflogwr enghreifftiol yn anrhydedd fawr.听
鈥淩ydym ni wedi cyflwyno polis茂au i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys milwyr wrth gefn ac arweinwyr cadetiaid. Rydym ni鈥檔 cydnabod gwerth cefnogi gweithwyr o gefndir milwrol. Mae鈥檙 profiad, yr wybodaeth a鈥檙 sgiliau y mae cyn-filwyr a milwyr wrth gefn wedi鈥檜 cael yn y fyddin ac yn ei roi i鈥檙 Cyngor yn aruthrol.听
鈥淏yddwn yn parhau i weithio i anrhydeddu ein hymrwymiadau yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog, gan sicrhau nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais鈥.听
Mae鈥檙 Cyfamod yn ymrwymiad gan y wlad na ddylai aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog wynebu unrhyw anfantais o'u cymharu 芒 dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau ac y dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi鈥檙 mwyaf.听
听