Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiect Archif ar y Cyd 鈥� Sir Ddinbych a Sir y Fflint
Published: 26/09/2019
Mae Gwasanaethau Archif Sir Ddinbych a Sir Y Fflint yn bwriadu uno er mwyn creu gwasanaeth gwell, mwy cynaliadwy ac effeithlon ar gyfer yr ardal.
Mae nifer o resymau dros yr uniad. Mae鈥檙 ddau gwasanaeth yn wynebu nifer o heriau a gellir mynd i'r afael 芒'r rhain drwy greu gwasanaeth ar y cyd rhwng y ddwy sir, a symud i adeilad newydd pwrpasol.听
Does dim llawer o le ar gyfer archifau Sir Ddinbych a Sir Y Fflint i gadw rhagor o gofnodion. Mae鈥檙 Hen Reithordy ym Mhenarl芒g a鈥檙 Carchar yn Rhuthun, fel adeiladau rhestredig Gradd II hanesyddol, yn rhoi nifer o heriau gweithredol a mae costau rhedeg sylweddol yn cynyddu.
Mae鈥檙 prosiect yn ceisio datrys ein problemau o ran llety drwy greu cartref pwrpasol newydd ar gyfer y gwasanaeth ar y cyd. Bydd adeilad newydd yn darparu ystorfa archif cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth hyd y gellir gweld o ran gwagle storio, cynnal a chadw adeilad a rheoli adeilad.听听
Safle ger Theatr Clwyd, yr Wyddgrug yw ein dewis a ffefrir (gweler argraff arlunydd). Bydd bod yn ymyl y theatr yn helpu i greu hwb ddiwylliannol a鈥檔 caniat谩u i weithio gyda'n gilydd a darparu gweithgareddau ar y cyd.
Nod y gwasanaeth newydd hwn fydd estyn allan i gynulleidfaoedd newydd. Byddwn yn annog mwy o bobl ifanc i ymweld a rhyngweithio gyda鈥檙 Gwasanaeth Archif drwy hyrwyddo dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys cysylltu 芒'r theatr i gyflwyno storiau o'r archifau mewn modd mwy gweledol a chyfranogol. Rydym yn bwriadu cynnig gweithdai, cyrsiau a diwrnodau them芒u, i ddod 芒 hanes yn fyw i bobl lleol ac hefyd i estyn allan i鈥檔 ymchwilwyr cenedlaethol a rhyngwladol drwy addysg ar-lein/ digidol a deunyddiau adnoddau.听听
Hoffem glywed eich safbwyntiau ar ein prosiect newydd i鈥檔 helpu i lunio鈥檙 gwasanaethau a gweithgareddau yn y ganolfan archif newydd. Gallwch wneud hyn drwy lenwi () neu lenwi copi caled o'r holiadur yn y swyddfa. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y ddogfen Briff Cyhoeddus ar dudalen Newyddion a Digwyddiadau ar ein gwefan: flintshire.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Records-and-Archives/Home.aspx).

听