Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Gwybodaeth ynghylch Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen
Published: 19/09/2019
Cynhelir ail Ddiwrnod Gwybodaeth er mwyn i breswylwyr allu cael gwybod mwy am Blas yr Ywen, cynllun gofal ychwanegol newydd Treffynnon a fydd yn agor yn gynnar flwyddyn nesaf.
Mae modd ymgeisio am le yn y cyfleuster newydd o hyd, a bydd gwybodaeth bellach ar gael yn Eglwys San Pedr yn Rosehill, Treffynnon, ar ddydd Mawrth 1 Hydref 2019 rhwng 10am a 6pm.
Darparir y cynllun gofal ychwanegol a fydd yn costio 拢8.5m gan Dai Wales & West mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint a bydd cynrychiolwyr o鈥檙 ddau sefydliad yn bresennol ar y diwrnod.
Bydd darpar breswylwyr yn gallu gweld y cynlluniau a gofyn cwestiynau am gostau byw, dewisiadau gofal a chymorth neu am unrhyw agweddau eraill ar y cynllun.
Ni chodir t芒l am fynychu鈥檙 digwyddiad, ac fe鈥檌 cynhelir ar ffurf sesiwn galw heibio, a bydd lluniaeth ar gael trwy gydol y dydd.
Dywedodd Robin Jones, Rheolwr Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen:聽 鈥淏ydd darpar breswylwyr yn gallu siarad 芒鈥檔 t卯m i gael gwybod mwy am fyw mewn cynllun gofal ychwanegol a chofrestru eu diddordeb mewn ymgeisio am le.聽 Bydd y sesiwn galw heibio yn un anffurfiol ac estynnir croeso cynnes i bawb.鈥
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, Cynghorydd Christine Jones:聽 鈥淏ydd y cyfleuster hwn yn darparu gwasanaethau gofal yn y cartref o ansawdd uchel.聽 Gan ymateb i鈥檙 galw am drefniadau gofal a chymorth, bydd y cynllun newydd hwn yn gynllun arloesol go iawn i Dreffynnon ac i Sir y Fflint, gan ddarparu fflatiau hunangynhwysol, a chan gynnwys fflatiau wedi鈥檜 dylunio鈥檔 arbennig ar gyfer pobl sydd 芒 dementia.鈥
Lleolir Plas yr Ywen yn Ffordd Halkyn, a bydd yn cynnwys 55 o fflatiau i bobl 50 oed a throsodd, gyda mynediad 24 awr i ofal a chymorth ar y safle.
Mae ein partneriaid adeiladu, Anwyl Construction, yn ei adeiladu ar hen safle Ysgol Perth y Terfyn, a disgwylir i鈥檙 preswylwyr cyntaf symud i mewn yn ystod y Gwanwyn 2020.
I gael gwybod mwy, trowch at , anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526.