Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Estyn ar Wasanaethau Addysg Sir y Fflint
Published: 19/09/2019
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn croesawu adroddiad arolygu cadarnhaol gan Estyn o鈥檙 gwasanaethau addysg, pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.听
Cyflawnodd Estyn arolygiad llawn o鈥檔 gwasanaethau addysg ac ieuenctid yn gynharach yr haf hwn.
Darganfu Estyn, ar y cyfan, bod disgyblion yn ein hysgolion lleol, gan gynnwys y rhai 芒 hawl i brydau ysgol am ddim a'r rhai gydag anghenion addysgol arbennig, yn gwneud cynnydd da yn ystod eu hamser mewn addysg statudol. Mae Estyn yn nodi bod addysg gynradd yn y sir yn arbennig o gryf gyda鈥檙 gyfran o ysgolion cynradd sy鈥檔 cyflawni dyfarniadau ardderchog am safonau, yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Mae perfformiad grwpiau o ddisgyblion diamddiffyn wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf gyda鈥檙 nifer o'r rhai sy'n gadael Blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith yn parhau'n isel.
Un maes nodedig o berfformiad uchel yw gwaith ymyrraeth gynnar i gefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu plant. Mae hyn wedi cael ei amlygu fel arfer sy鈥檔 arwain y sector.听
Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn amlygu bod lles mwyafrif y disgyblion yn dda ar draws holl gyfnodau addysg ac yn nodi bod gennym strategaethau i wella iechyd meddyliol ac emosiynol disgyblion yn yr ysgolion a thrwy ddarpariaeth ieuenctid integredig. Mae Estyn yn cadarnhau bod gan blant a phobl ifanc gyfleoedd cadarnhaol i gyfrannu tuag at benderfyniadau ar faterion sy鈥檔 ei heffeithio nhw. Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gryf gydag uwch swyddogion ac aelodau etholedig yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer darparu addysg. Mae'r weledigaeth yn cael ei adlewyrchu mewn strategaethau corfforaethol ac yn cael ei gyfathrebu鈥檔 dda.
Mae鈥檙 berthynas gweithio effeithio rhyngom ni a鈥檙 gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion (GwE) wedi鈥檌 amlygu fel cryfder gyda chefnogaeth briodol ar gyfer ysgolion gan arwain at wella鈥檙 safonau a gyflawnir gan ddisgyblion. Mae ein darpariaeth ar gyfer disgyblion diamddiffyn, y rhai ag anghenion addysgol arbennig a鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, hefyd yn cael ei ddisgrifio mewn modd cadarnhaol yn yr adroddiad.
Mae鈥檙 adroddiad yn gwneud nifer fechan o argymhellion ar gyfer gwelliannau parhaus, ac rydym yn cytuno 芒'r rhain.听 Mae鈥檙 rhain yn cynnwys parhau i wella'r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr erbyn diwedd cyfnod allweddol 4, gwella lefelau presenoldeb disgyblion 鈥 yn arbennig yn y sector uwchradd, a lleihau鈥檙 nifer o waharddiadau cyfnod penodol a pharhaol. Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn argymell ein bod yn gweithio gydag ysgolion i gadw diffyg ariannol ysgolion dan reolaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩wy鈥檔 croesawu鈥檙 gydnabyddiaeth hon o鈥檔 safle a pherfformiad ac rwy鈥檔 hynod o falch bod yr arolygwyr wedi cydnabod y cynnydd da sy鈥檔 cael ei wneud gan wasanaeth addysg sir y Fflint. Mae鈥檔 glod i waith caled pawb sydd ynghlwm.鈥听
Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:
鈥淢ae鈥檙 adroddiad cadarnhaol hwn gan Estyn wedi nodi鈥檙 gwaith effeithiol rhwng y Cyngor a鈥檙 t卯m addysg, ein hysgolion, gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion ac ystod eang o bartneriaid allweddol. Y bartneriaeth gref hon sy鈥檔 darparu profiad addysgol o safon i ddysgwyr yn Sir y Fflint, a dylem oll fod yn falch iawn ohoni.鈥
听