Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Strategaeth Parcio Ceir
  		Published: 14/04/2015
Ddydd Mercher, 15 Ebrill, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu鈥檙 Amgylchedd Cyngor 
Sir y Fflint yn trafod strategaeth a fydd yn cyflwyno taliadau parcio ym mhob 
maes parcio tref syn eiddo i鈥檙 Cyngor. Yr argymhelliad yw bwrw ymlaen 芒鈥檙 
strategaeth a鈥檌 chyflwyno ir Cabinet ddydd Mawrth nesaf (21 Ebrill).
Mae mesurau parcio a gorfodi yn allweddol i reoli rhwydwaith priffyrdd 
effeithiol a chynorthwyo i osgoi tagfeydd. Mae rheolaeth effeithiol o barcio 
oddi ar y stryd yn hanfodol i helpu i gynnal bywiogrwydd tref.
Mae鈥檙 Strategaeth Parcio wedi ei datblygu i ddarparu dull cyson ar gyfer parcio 
oddi ar y stryd ym meysydd parcio trefi.
Ar 么l ystyried adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus agored 
a鈥檙 gweithdai gyda chynghorwyr sir, tref a chymuned, bydd y trefniadau rheoli 
parcio arfaethedig yn cael eu cymhwyso mewn trefi lle mae cyfanswm nifer y 
mannau parcio ym meddiant y Cyngor yn fwy na 50.
Bydd taliadau parcio yn berthnasol yn y trefi canlynol:
- Y Fflint
- Treffynnon
- Yr Wyddgrug
- Bwcle  
- Cei Connah
- Queensferry
- Shotton
Bydd pentref Talacre hefyd yn cael ei gynnwys yn y trefniadau rheoli meysydd 
parcio oherwydd pryderon lleol ynghylch parcio ar effaith y maen ei gael ar y 
gymuned a鈥檙 busnesau lleol.
Maer meysydd parcio yng Nghaergwrle a Phenarl芒g wedi eu tynnu o鈥檙 strategaeth.
Nid oes unrhyw fwriad i gyflwyno taliadau ar gyfer defnyddwyr anabl sy鈥檔 parcio 
yn y mannau dynodedig i bobl anabl ym meysydd parcio鈥檙 Cyngor.
Bydd cynllun trwydded parcio yn y gweithle hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer 
mannau parcio i weithwyr yn yr Wyddgrug (Neuadd y Sir) a鈥檙 Fflint. Mae鈥檙 rhain 
yn feysydd parcio dynodedig o fewn yr ardaloedd rheoli Meysydd Parcio lleol a 
bydd angen trwyddedau ar weithwyr a Chynghorwyr sy鈥檔 gweithio ac yn ymweld 芒r 
adeiladau hyn yn rheolaidd. 
Ni fydd t芒l am barcio gyda鈥檙 nos yn yr Wyddgrug, fodd bynnag, bydd cyfraniad 
tuag at gost cynnal a chadw鈥檙 maes parcio yn cael ei godi drwy ardoll sy鈥檔 
berthnasol i holl werthiannau tocynnau theatr yng Nghlwyd Theatr Cymru.
Mae manylion llawn y strategaethau, gan gynnwys y taliadau arfaethedig, ar gael 
ar wefan y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy 
Arweinydd:
鈥淢ae鈥檙 Strategaeth Parcio yn cael ei chyflwyno fel rhan o鈥檔 her i ganfod 
arbedion effeithlonrwydd o 拢18 miliwn a mwy yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. 
Rydym ni wedi addasur cynigion gwreiddiol er mwyn ystyried y prif bryderon a 
godwyd yn ystod yr ymgynghoriad diweddar, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd 
ran a mynegi eu barn.鈥