Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun paneli solar ffotofoltaidd, Cei Connah
Published: 10/09/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi hyrwyddo a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy carbon isel ers tro; o osod technolegau fel paneli solar ffotofoltaidd, pympiau gwres a thyrbinau gwynt yn adeiladau鈥檙 Cyngor a thai Cyngor i ddatblygu a gweithredu dwy fferm ynni solar ar hen safleoedd tirlenwi ym Mwcle. Yn wir, yn 2018-2019 cynhyrchodd y Cyngor 4.6 miliwn cilowat-awr o drydan drwy baneli solar ffotofoltaidd, y gwynt, nwyon tirlenwi a gwres a phwer cyfunedig. Mae hyn yn oddeutu 5% o ddefnydd trydan y Cyngor, neu鈥檔 gyfwerth 芒'r pwer a ddefnyddir mewn oddeutu 1,500 o gartrefi ac oddeutu 2,090 tunnell o garbon.听
Bellach, dan y flaenoriaeth 鈥楥yngor Gwyrdd鈥� yng Nghynllun y Cyngor a鈥檙 Cynllun Gweithredu Ynni Adnewyddadwy; mae鈥檙 Cyngor yn ceisio ymestyn ei ymrwymiad i ynni adnewyddadwy drwy ddatblygu cynllun paneli solar ffotofoltaidd ar dir i鈥檙 de o Ffordd y Doc, Cei Connah.听听
Y bwriad yw gosod 1.6MW o baneli solar ffotofoltaidd ar y ddaear ac isadeiledd cysylltiedig fel gwrthdroyddion, trawsnewidyddion ac ati. Bydd hwn yn cynhyrchu oddeutu 1.4 miliwn kWh o drydan y flwyddyn sy鈥檔 ddigon i roi pwer i 480 o gartrefi, gan arbed oddeutu 439 tunnell o garbon y flwyddyn. Bydd hyn yn helpu lleihau allyriadau carbon; yn lliniaru newid hinsawdd a llygredd aer, a bydd hefyd yn cyfrannu tuag at darged lleihau carbon y Cyngor ei hun o 60% erbyn 2021 a tharged Llywodraeth Cymru o gynhyrchu 70% o鈥檌 ddefnydd trydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2030.听
Mae cais cynllunio yn cael ei baratoi ac, fel rhan o鈥檙 ymgynghoriad cyn gwneud cais, mae鈥檙 Cyngor yn cynnal arddangosfa gyhoeddus rhwng 11 Medi a 9 Hydref听 yn Llyfrgell Cei Connah, Wepre Drive, Cei Connah, Sir y Fflint, CH5 4HA. Bydd yr arddangosfa gyhoeddus yn darparu gwybodaeth ar y cynnig gan gynnwys lleoliad, dyluniadau, cynlluniau a dogfennau/ adroddiadau cynllunio drafft. Dyma鈥檙 cyfle i鈥檙 gymuned leol ddarparu adborth a sylwadau ar y datblygiad cyn i鈥檙 cais cynllunio gael ei gyflwyno鈥檔 ffurfiol.听
Gellir cael gwybodaeth yn ymwneud 芒鈥檙 cynnig neu鈥檙 arddangosfa gyhoeddus drwy gysylltu ag Asiant Cynllunio鈥檙 Cyngor; Stephenson Halliday:
鈥� Swydd: Stephenson Halliday Ltd, 30 鈥� 32 Lowther Street, Kendal, Cumbria, LA9 4DH
鈥� E-bost: info@stephenson-halliday.com听
鈥� Ff么n: 01539 739000
Bydd yr arddangosfa ar gael i鈥檞 gweld yn ystod oriau agor y llyfrgell:
鈥� Dydd Llun a dydd Mawrth: 9am tan 6pm
鈥� Dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener: 9am tan 5pm
鈥� Dydd Sadwrn: 9am tan 1pm
Gobeithir y bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried yn ffurfiol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.听
听