Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgol newydd ar gyfer tymor newydd ym Mhenyffordd
Published: 11/09/2019
Mae Ysgol Penyffordd sydd yn newydd sbon wedi croesawu disgyblion i'r tymor newydd.
Dathlwyd hyn yn ddiweddar mewn digwyddiad lle'r oedd cynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y contractwr lleol, Wynne Construction a leolir ym Modelwyddan ar safle鈥檙 ysgol gynradd yr 21ain ganrif yn bresennol.
Mae鈥檙 gwaith yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy a gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i foderneiddio a gwella Ysgol Uwchradd Cei Connah.听
Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3 鈥 11 oed ar safle Abbotts Lane ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 yn ogystal 芒 neuadd a stiwdio.听听
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淒yma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint.听 Mae鈥檙 buddsoddiad o bron i 拢7 miliwn yn darparu cyfleuster modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a鈥檙 gymuned ehangach a bydd yn cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.鈥
Dywedodd Jayne Mulvey, y Pennaeth:
鈥淩ydym yn falch o gael dechrau flwyddyn ysgol newydd yn yr adeilad gwych hwn. Mae llawer o gyffro wedi bod wrth i ni gynllunio a gwylio鈥檙 adeilad yn datblygu dros y dair blynedd diwethaf, ac mae bellach yn braf gweld syniadau鈥檙 dyluniad gan Wynne Construction, y staff a鈥檙 disgyblion yn cael eu gwireddu mewn man dysgu unigryw. Mae鈥檙 adeilad yn anhygoel, dymunol i'r olwg ac fel amgylchedd gwaith. Mae鈥檙 cyfleusterau tu mewn a thu allan yn fodern iawn; rydym wedi cael cyfleuster addysgu sydd yn llawer mwy na鈥檙 disgwyl. Bydd yn gwasanaethu ein disgyblion a chymuned y pentref yn dda iawn am nifer o flynyddoedd.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Y Fflint a Llywodraeth Cymru am ariannu鈥檙 prosiect ac yn ddiolchgar o gael gweithio gydag Wynne Construction, a oedd yn ystyriol a chraff drwy gydol y broses ddylunio ac adeiladu.听
鈥淢ae pawb sydd wedi bod ynghlwm 芒'r ysgol wedi gweithio'n galed iawn i baratoi ar gyfer yr agoriad ym mis Medi.听 Roedd gweld y cyffro a syfrdan ar wynebau disgyblion wrth ddod i mewn i鈥檙 ysgol am y tro cyntaf yn ddiweddar yn rhywbeth na fydd y staff yn ei anghofio, rydym yn edrych ymlaen i fwynhau鈥檙 cyfleuster addysgu hyfryd hwn yn y blynyddoedd i ddod.鈥澨
Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction:
"Rydym yn falch iawn o fod wedi cael darparu cynllun Ysgol Penyffordd newydd ac i weithio mewn partneriaeth eto gyda Chyngor Sir y Fflint.听 Mae cydweithio gyda鈥檙 holl bart茂on ynghlwm wedi creu cyfleuster gwych ac yn ychwanegol, rydym wedi gallu darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i鈥檙 gweithlu adeiladu lleol.鈥
听