天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2019 ar ddod

Published: 10/09/2019

Bydd cannoedd o wirfoddolwyr yn ymgynnull ar lannau鈥檙 Afon Dyfrdwy a鈥檙 ardaloedd cyfagos dros yr wythnos nesaf ar gyfer digwyddiad blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2019 i lanhau鈥檙 ardal. Mae'r digwyddiad yn dechrau ddydd Gwener 13 Medi yn nodi dechrau wythnos gyfan o ddigwyddiadau glanhau ar hyd yr Afon Ddyfrdwy a'r ardaloedd cyfagos.听听

Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy鈥檔 un o ddigwyddiadau cymunedol a chadwraeth mwyaf Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ac mae wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007, gyda Sir y Fflint, Swydd Gaer a Chyfoeth Naturiol Cymru鈥檔 rhan-ddeiliaid allweddol. Ar hyd yr arfordir a鈥檙 afonydd sy鈥檔 llifo i Afon Dyfrdwy o Dalacre i Gaer a de Sir Ddinbych, mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn llawer mwy na diwrnod mawr o godi sbwriel.

Bydd y digwyddiad unwaith eto yn golygu bod Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 cynghorau cyfagos - Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol, grwpiau cadwraeth a busnesau ar draws y rhanbarth i glirio'r afon o sbwriel morol, tacluso'r ardaloedd ar hyd y glannau a phlannu coed ffrwythau a thacluso'r ardaloedd arbennig ar hyd glannau, arfordir a dalgylch Afon Dyfrdwy.听 Mae eu hymdrechion yn cael eu cydlynu gan Wardeniaid Cefn Gwlad y Cyngor sy鈥檔 defnyddio鈥檙 cyfle i weithio gyda nifer o grwpiau cymunedol, ysgolion a gwahanol fusnesau fel Airbus, Kingspan, ENI, Toyota, McDonald鈥檚, Tata Steel, KK Fine Foods a llawer mwy.听

Mae rhai eisoes wedi dechrau arni, casglodd Cyfoeth Naturiol Cymru 15 bag o sbwriel o Holway, Treffynnon.听 Rhai o鈥檙 gweithgareddau glanhau eraill sy'n cael eu cynnal yw:听

鈥� Bydd Kingspan yn clirio o amgylch Porthladd Maes Glas (13/09/2019)听

鈥� Bydd Airbus yn clirio ffin Cymru (13/09/2019)

鈥� Bydd Cyngor Tref Saltney yn clirio o amgylch Saltney (13/09/2019)

鈥� Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn clirio o amgylch Talacre (13/09/2019)听

鈥� Mae鈥檙 RNLI yn clirio blaendraeth y Fflint (14/09/2019)

鈥� Bydd Cyfeillion Parc Gwepra yn casglu sbwriel ym Mharc Gwepra - digwyddiad cyhoeddus (14/09/2019)

鈥� Bydd Cyfeillion Blaendraeth Bagillt yn casglu sbwriel ar Flaendraeth Bagillt (14/09/2019)

鈥� Bydd Sgowtiaid Treffynnon yn clirio o amgylch ardal Maes Glas (14/09/2019)

鈥� Bydd UPM Smart Solutions yn clirio o amgylch Talacre (16/09/2019)

鈥� Bydd 80 o fyfyrwyr o Goleg Cambria yn casglu sbwriel yn Saltney (17/09/2019)听

鈥� Bydd Toyota a Sustrans yn plannu coed yn y Fflint (17/09/2019)听

鈥� Bydd McDonalds yn casglu sbwriel o amgylch Mostyn (18/09/2019)

鈥� Bydd Sainsbury鈥檚 yn gweithio gyda Sustrans yn Swinchard Brook (18/09/2019)听

鈥� Bydd Prosiect Ein Iard Gefn yn clirio o Golftyn i鈥檙 Rock (18/09/2019)听

鈥� Bydd y Waterman Quay Association yn clirio'r nant ger yr Hen Borthladd (19/09/2019)听

鈥� Bydd Parc Adfer yn gweithio gydag ysgol leol yn dysgu am broblemau plastigion ac yn casglu sbwriel (19/09/2019)

鈥� Bydd Tata yn gweithio i wella eu grwpiau听听

鈥� Mae ENI yn gweithio gyda'r gymuned leol i dacluso o amgylch Talacre (20/09/2019)

鈥� Bydd KK Finefoods yn casglu sbwriel o amgylch y safle diwydiannol (20/09/2019)

鈥� Bydd Parc Gwyliau'r Parlwr Du yn tacluso o amgylch y Parlwr Du (21/09/2019)

Mae amcangyfrif bod dros 12 miliwn tunnell o blastig, yn boteli, bagiau a gronynnau plastig, yn cyrraedd y m么r bob blwyddyn (greenpeace.org.uk) ac mae potensial i lawer o blastig fod yn Afon Dyfrdwy a鈥檌 haber ac ar ei glannau a鈥檌 chorsydd.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:听

鈥淢ae Afon Dyfrdwy a鈥檌 haber yn amgylchedd morol sydd o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ac mae hi鈥檔 hanfodol ein bod ni i gyd yn deall y bygythiad mae鈥檔 ei wynebu o ddeunydd gwastraff, yn enwedig plastig, a鈥檙 hyn y gallwn ni ei wneud i gael gwared 芒鈥檙 bygythiadau yma.听

鈥淢ae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, sy'n cael ei gynnal am y 13eg gwaith eleni, yn amlygu amgylchedd morol eithriadol ond bregus Afon Dyfrdwy a鈥檙 angen i鈥檞 pharchu, ei gwerthfawrogi a鈥檌 gwarchod.

鈥淕allwn edrych ymlaen at y digwyddiadau eleni a gwneud Afon Dyfrdwy鈥檔 lle brafiach i bawb.听Diolch ymlaen llaw i鈥檙 cannoedd o wirfoddolwyr sy鈥檔 cyfranogi. 听听Mae鈥檔 ddigwyddiad gwych sy鈥檔 dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo pawb yn uno gyda'i gilydd ac yn cynorthwyo i wella ein hamgylchedd naturiol".听

Cysylltwch 芒 Wardeniaid Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint ar 01352 703900 neu drwy鈥檙 cyfryngau cymdeithasol (@Countryside&Coast) i gael mwy o wybodaeth neu i ddilyn Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy ar Twitter #BigDeeDay

听

听