天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwybodaeth dementia newydd ar-lein ar gael

Published: 10/09/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ychwanegu gwybodaeth newydd i'w gwefan ar gyfer y rhai sy'n byw gyda dementia a鈥檜 gofalwyr.听

Mae鈥檙 wybodaeth yn cynnwys lleoliadau cyfeillgar i ddementia, gwasanaethau cefnogi, diogelwch, hamdden ac adloniant, cefnogaeth i ofalwyr, cludiant, gwastraff ac ailgylchu a thai.

Mae鈥檙 wybodaeth hon yn ganlyniad i adborth gan bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr sydd wedi ei chael yn anodd i ganfod pa gefnogaeth all fod ar gael iddynt yn Sir y Fflint.听

Y gobaith yw y bydd hyn yn dod ag amrediad o wybodaeth ynghyd mewn un lle, gan weithredu fel cyfeiriadur o wasanaethau cefnogi. Bydd pobl sy鈥檔 byw gyda dementia a'u gofalwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill yn gallu mynd i dudalennau'r Cyngor ar y we i gael gwybodaeth ddefnyddiol, yn hytrach na threulio amser yn chwilio drwy wefannau asiantaethau partner ac adrannau'r Cyngor. Bydd y tudalennau鈥檔 parhau i gael eu diweddaru wrth i ni ddysgu mwy am gefnogaeth leol.听 听

Dywedodd Jo Lane, Cydlynydd Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer鈥檚:听

鈥淒yma fenter wych sy鈥檔 cyd-fynd gyda'n cenhadaeth i greu cymunedau sy鈥檔 fwy cyfeillgar i ddementia.

鈥淏ydd dod 芒 gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle yn sicr yn gwneud bywyd yn haws i unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan y cyflwr, felly mae鈥檔 wych gweld y cyngor yn ystyried yr hyn mae pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia wedi ei ddweud.

鈥淩ydym ni eisiau i bobl sy'n byw gyda dementia deimlo fel pe baent yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi a theimlo'n hyderus y gallant gyfrannu at fywyd cymunedol.听

鈥淩ydym yn gweithio鈥檔 galed i greu newid ac felly mae'n hynod galonogol i weld sefydliadau eraill yn uno gyda ni yn erbyn dementia.听

鈥淢ae yna 850,000 o bobl yn y DU yn byw gyda dementia, ac mae bron i 2,000 ohonynt yn Sir y Fflint, ac mae鈥檔 hynod bwysig eu cefnogi ymhob ffordd y gallwn ni.鈥

Dywedodd Jim Ibell, Llysgennad ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer鈥檚 ac un o breswylwyr Sir y Fflint sy'n byw gyda dementia: 鈥淎lla i wir ddim diolch digon i Gyngor Sir y Fflint am weithredu mor gyflym. Dim ond ym mis Gorffennaf wnes i grybwyll rhoi rhywbeth ynghyd, lle mae'r holl wybodaeth berthnasol i gefnogi rhywun sy'n byw gyda dementia mewn un lle ac mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnwys hynny ar eu gwefan yn syth, sy'n wych.

鈥淩wyf wedi bod yn s么n am geisio gwneud hyn ers misoedd mewn gwahanol gyfarfodydd yr wyf wedi bod iddynt ar draws Gogledd Cymru ac o鈥檙 diwedd gweithredwyd ar hyn.听 Bydd hyn yn gymorth mawr i bobl sy'n byw gyda dementia, rwy'n credu mai dyma'r unig ddogfen sy'n cynnwys nifer o bethau y mae angen i ni eu gwybod i gyd gyda'i gilydd. Hefyd mae鈥檔 wych i weld Cyngor Sir y Fflint yn symud tuag at ddod yn sefydliad cyfeillgar i ddementia. Bydd hyn yn helpu鈥檙 holl bobl yn Sir y Fflint sy'n byw gyda dementia."

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ei gydnabod fel sefydliad sy鈥檔 鈥楪weithio Tuag at Ddod yn Gyfeillgar i Ddementia鈥 drwy Raglen Cymunedau Cyfeillgar y Gymdeithas Alzheimer's.

Mae rhaglen Cymunedau a Sefydliadau Cyfeillgar i Ddementia y Gymdeithas Alzheimer's yn ceisio annog pawb i rannu'r cyfrifoldeb o sicrhau fod pobl gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi a theimlo eu bod yn gallu cyfrannu at eu cymunedau. Mae hyn yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau a sefydliadau fel eu bod yn gallu ymateb yn well i anghenion y rhai sy鈥檔 byw gyda dementia a鈥檜 gofalwyr.听

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae dementia yn flaenoriaeth mewn sawl cynllun corfforaethol. Rwy鈥檔 falch o ymrwymiad staff Cyngor Sir y Fflint a鈥檜 sefydliadau partner sydd yn parhau i weithio鈥檔 galed i sicrhau ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl gyda dementia a鈥檜 gofalwyr.听 听

Mae Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 yn ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth ac ymwybyddiaeth o ddementia ymhellach ar draws y sir drwy:

鈥 gynyddu nifer y cymunedau cyfeillgar i ddementia yn Sir y Fflint; a

鈥 gweithio mewn partneriaeth i gefnogi pobl sy鈥檔 byw gyda dementia yn y gymuned.听

Dyma鈥檙 ddolen ar gyfer y wybodaeth听.