Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiannau siopau dros dro yn parhau
Published: 04/09/2019
Mae dau fusnes, sydd eisoes yn enwau rheolaidd yn siop dros dro Bwcle, yn ehangu eu gorwelion ac yn mentro eu hunain.
Mae Annemarie Sharp o Cowboys and Angels Children鈥檚 Boutique a Sharon Beck o Shaz鈥檚 Shabby CHIC wedi penderfynu agor eu siop eu hunain gyda鈥檌 gilydd yn dilyn听 y llwyddiant a gawsant trwy鈥檙 Siop Dros Dro.听听
Enw鈥檙 siop fydd Shazam PopUp Shop ac mae鈥檙 agoriad swyddogol ddydd Sadwrn yma, 7 Medi o 10am tan 5pm, gyda digon ar gael gan gynnwys paentio wynebau ar gyfer y plant a gwydraid o swigod i鈥檙 oedolion.听听
Syniad gwreiddiol Martin Evans yw鈥檙 siop dros dro, rheolwr gyfarwyddwr Rhwydwaith Busnesau Bach Sir y Fflint (FSBN), rhan o Rwydwaith Busnes y DU sy鈥檔 cefnogi a hyrwyddo busnesau bach trwy eu helpu i dyfu ac ymestyn eu cyrhaeddiad yn lleol ac yn genedlaethol trwy rwydweithio digidol a strategaethau marchnata cymdeithasol, lleol a symudol.
Dywedodd Martin:
鈥淢ae hyn yn newyddion gwych i'r busnesau ac yn newyddion gwych i drigolion Bwcle. Mae hyn yn golygu un siop wag llai ym Mwcle a bydd y gymuned yn cael siop y byddant yn ei defnyddio gan fod perchnogion y busnes eisoes wedi profi'r farchnad trwy ein siop dros dro wreiddiol.
鈥淵 ffordd y mae ein siop yn gweithio yw y gall busnesau bach rentu lle am y dydd neu nifer o ddyddiau. Gellir defnyddio'r lle ar gyfer pob math o bethau - arddangosiadau coginio, arddangosiadau trefnu blodau a diwrnodau gemau bwrdd! Mae hyn yn dangos pa mor amlbwrpas y gall y gofod fod!鈥
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
鈥淢ae'r siop dros dro arloesol hon yn profi i fod yn ffordd wych o ddod 芒 busnesau bach yn 么l i'r stryd fawr. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi'r fenter hon yn llawn ac rwy'n falch o glywed bod y ddau berchennog busnes hyn bellach yn mentro ar eu liwt eu hunain. Rwy鈥檔 dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.鈥
I gael mwy o wybodaeth am y siop dros dro, cysylltwch 芒 Martin yn FSBN ar 07481 195453 neu e-bostiwch flintshiresbn@gmail.com.
听