Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Batris botwm 鈥 Risg i blant bach o dagu a llosgiadau
Published: 30/08/2019
Dymuna Swyddogion Safonau Masnach Sir y Fflint atgoffa trigolion am beryglon batris botwm neu geiniogau i鈥檆h plant.听 听听
Mae鈥檙 batris hyn o amgylch ein cartrefi a gweithleoedd mewn eitemau bob dydd gan gynnwys goriadau car, rheolaeth o bell, oriorau, golau nos, canhwyllau difflam, cymhorthion clyw, teganau a chardiau cyfarch cerddorol.听
Nid ydynt yn peri fawr ddim risg os defnyddir yn y math cywir o gynnyrch a鈥檜 gosod yn ddiogel mewn eitem, neu eu storio yn gywir yn y pecyn gwreiddiol nes bydd eu hangen.听 听Fodd bynnag, os na fydd batris wedi eu gosod yn ddiogel mewn eitem, yn cael eu storio鈥檔 rhydd fel rhai sb芒r, neu wedi eu tynnu a heb eu gwaredu鈥檔 gywir, gallant fod yn beryglus i iechyd a diogelwch ac yn arbennig plant bach.
Os byddant yn eu llyncu, mae鈥檔 hawdd i鈥檙 plentyn dagu, yn arbennig y batris mwyaf sy鈥檔 gallu rhwystro llwybr aer plentyn yn llwyr.听
Maent hefyd yn berygl cemegol os llyncir 鈥 mae batri lithiwm yn cynhyrchu soda costig pan fydd mewn cysylltiad 芒鈥檙 poer.听 听Bydd soda costig yn ymosod ac yn llosgi meinwe meddal, a gall hyd yn oed arwain at farwolaeth mewn achosion difrifol.听听
Mae swyddogion Safonau Masnach yn awgrymu gwiriadau rheolaidd ar unrhyw deganau neu eitemau eraill sy鈥檔 defnyddio鈥檙 batris hyn i sicrhau bod yr adran batri yn ddiogel, unrhyw sgriwiau neu glipiau yn sownd ac nad yw鈥檙 eitem wedi鈥檌 difrodi.听 听 Hefyd, gwnewch yn siwr eu bod wedi eu cadw yn y pecyn neu gynhwysydd gwreiddiol ac nad yw o fewn cyrraedd plant.听 听Gwnewch yn siwr eich bod yn cael gwared ar hen fatris yn gywir, maent yn parhau i beri鈥檙 un risg o dagu a llosgiadau.听 听听
Lle bydd amheuaeth bod plentyn wedi llyncu batri botwm, dylech geisio sylw meddygol ar unwaith gan fod pob eiliad yn cyfrif lle mae yna berygl o ddifrod cynyddol i feinwe meddal.听
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:听
鈥淢ae batris botwm yn gynnyrch diogel a defnyddiol sy鈥檔 cynnig ystod eang o fudd yn ein bywyd bob dydd drwy eu defnyddio, storio a鈥檜 gwaredu鈥檔 gywir.听 听Mae amddiffyn iechyd, diogelwch a lles ein cymunedau a busnesau ar draws Sir y Fflint yn flaenoriaeth uchel i鈥檙 cyngor, ac amddiffyn aelodau ieuengaf ein cymuned yn hanfodol.听 Rwy鈥檔 llwyr gefnogi cyngor ein swyddogion Safonau Masnach i gymryd y camau syml hyn i amddiffyn ein plant.鈥
Camau syml i amddiffyn plant.听
- Storiwch fatris sb芒r yn ddiogel ac allan o gyrraedd plant bob amser.听 听
- Byddwch yn ymwybodol pa eitemau yn eich cartref sy鈥檔 defnyddio batris botwm.
- Os bydd eitem sy鈥檔 defnyddio batri wedi torri neu鈥檔 ddiffygiol, trefnwch i鈥檞 drwsio neu ei waredu鈥檔 ddiogel.
- Dysgwch blant hyn pam fod batris botwm yn beryglus.听听
- Taflwch hen fatris botwm gynted ag y byddwch wedi eu tynnu o鈥檙 eitem gan sicrhau eu bod yn cael eu storio a鈥檜 gwaredu鈥檔 ddiogel.听
Camau i鈥檞 cymryd os bydd plentyn yn llyncu batri botwm.听
- Ewch 芒鈥檙 plentyn i adran damwain ac argyfwng mewn ysbyty ar unwaith neu ffoniwch am ambiwlans.听
- Ar 么l cyrraedd yr ysbyty dywedwch wrth y staff meddygol beth ydych yn amau sydd wedi digwydd, os yn bosibl ewch ag unrhyw becyn batri gyda chi gan y bydd hyn yn helpu鈥檙 ysbyty i nodi鈥檙 driniaeth orau.听
- Peidiwch 芒 rhoi unrhyw beth i鈥檙 plentyn ei fwyta na鈥檌 yfed.听听
- Peidiwch 芒 cheisio eu gwneud yn s芒l.听
- Mae pob eiliad yn cyfrif gan y gall unrhyw oedi arwain at niwed cynyddol i organau mewnol a hyd yn oed marwolaeth.听听
Mae arwyddion bod plentyn wedi llyncu batri botwm yn cynnwys:听
- Tagu
- Poen bol听
- Glafoeri
- Bod yn s芒l听
- Gwaed yn y carthion neu wrth daflu i fyny听
Symptomau effeithiau llyncu batri botwm:听
- Poen bol听
- Dolur gwddf
- Blinder
- Dim eisiau bwyta听
Mae gwybodaeth bellach am ddiogelwch batri botwm ar gael yn y canlynol:听
听