Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newidiadau i鈥檙 Cynllun Nofio am Ddim
Published: 02/09/2019
Yn dilyn adolygiad annibynnol a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru, bydd newidiadau yn cael eu gweithredu yn yr hydref i'r Cynllun Nofio am Ddim.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio gyda Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru i ddatblygu cynnig ar gyfer y sir sy鈥檔 cwrdd ag anghenion yr amcanion newydd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y sesiynau nofio am ddim presennol yn parhau drwy gydol mis Medi gyda鈥檙 holl newidiadau i鈥檙 sesiynau yn dod yn weithredol o 1 Hydref 2019.
Bydd y pum pwll nofio yn Sir y Fflint yn rhoi gwybod i gwsmeriaid beth yw'r newidiadau i'r amserlen ac yn rhoi gwybodaeth am fynediad i鈥檙 sesiynau o dan y Cynllun Nofio am Ddim dros yr wythnosau nesaf. 听
Mae sesiynau am ddim i鈥檙 rhai Dros 60 oed wedi eu cadarnhau ymhob un o鈥檙 safleoedd a byddant ar gael bob wythnos ar y dyddiau canlynol:
Cambrian Aquatics 鈥� Dydd Llun (10am 鈥� 11am)
Bwcle 鈥� Dydd Mawrth (12pm 鈥� 1pm)
Canolfan Hamdden Treffynnon 鈥� Dydd Iau (8.15am 鈥� 9.30am)
Pafiliwn Jade Jones 鈥� Dydd Gwener (9am 鈥� 10am)
Canolfan Hamdden Yr Wyddgrug 鈥� Dydd Sadwrn (12pm 鈥� 1pm).
Yn ogystal 芒'r sesiynau am ddim bydd aelodaeth 芒 chymhorthdal ar gael drwy Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Cambrian Aquatics a Chanolfan Hamdden Treffynnon a fydd yn caniat谩u mynediad i鈥檙 holl sesiynau cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn. Bydd rhagor o fanylion am y cynigion hyn ar gael ar wefannau鈥檙 tri sefydliad neu yn eich pwll lleol.
Bydd sesiynau am ddim ar gyfer y rhai dan 16 oed yn canolbwyntio ar sesiynau a gwersi sblash wedi eu targedu a bydd y cynnig hwn yn cael ei ddatblygu dros y misoedd i ddod i dargedu鈥檙 rhai sy鈥檔 wynebu rhwystrau mawr ar hyn o bryd o ran cael mynediad i鈥檞 pwll lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a鈥檙 Aelod Cabinet Addysg:
鈥淢ae鈥檙 Cynllun Nofio am Ddim wedi galluogi preswylwyr Sir y Fflint i ddefnyddio ein pyllau nofio rhywbeth nad oedd o bosib, i rai, yn bosibl heb y cynllun ac rydym ni鈥檔 gweithio gyda鈥檔 pyllau nofio lleol i leihau鈥檙 effaith ar gyfranogwyr presennol a'r dyfodol. Gall nofio gael nifer o fanteision o ran iechyd i unigolion a chymunedau a'n bwriad yw parhau i wneud nofio鈥檔 hygyrch."
Os oes gennych ymholiadau pellach yn ymwneud 芒鈥檙 sesiynau nofio am ddim, cysylltwch 芒鈥檆h pwll nofio lleol os gwelwch yn dda:
Canolfan Hamdden Bwcle, 01352 704290/704291; Cambrian Aquatics, 01244 956595; Canolfan Hamdden Treffynnon, 01352 355100; Pafiliwn Jade Jones, 01352 704301; Canolfan Hamdden Yr Wyddgrug, 01352 704330 neu gallwch ymweld 芒 gwefan Aura Wales , gwefan Canolfan Hamdden Treffynnon neu dudalen Facebook Cambrian Aquatics .