天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu canlyniadau Lefel A

Published: 15/08/2019

Mae myfyrwyr chweched dosbarth ysgolion Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth i ddosbarthiadau 2019 dderbyn eu canlyniadau Lefel A.Mae canlyniadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn dangos bod 98.5% o鈥檙 arholiadau a safodd myfyrwyr gyda鈥檙 corff arholi wedi ennill graddau pasio A*-E, sydd yn cyd-fynd 芒 ffigwr Sir y Fflint o 98.8% ar y cam hwn yn 2018.

Canran y graddau A* i C yn Sir y Fflint eleni yw 76.2%, o gymharu 芒 76.5% yn 2018.

Canran y graddau A* ac A 听yw 25.9% o holl ganlyniadau CBAC Sir y Fflint,o gymharu 芒 21.2% yn 2018.听 Mae鈥檙 cynnydd arwyddocaol hwn yn adlewyrchu鈥檙 gwaith caled y mae ysgolion Sir y Fflint yn ei wneud i ymestyn eu myfyrwyr mwyaf galluog i gyrraedd eu potensial.听

Mae鈥檙 rhan fwyaf o ymgeiswyr Lefel Uwch Sir y Fflint yn sefyll arholiadau CBAC ac fe fydd canlyniadau arholiadau byrddau arholi eraill ar gael yn nes ymlaen heddiw.听

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 Aelod Cabinet dros Addysg:

鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn estyn ei longyfarchiadau mwyaf gwresog i holl fyfyrwyr Lefel A Sir y Fflint am eu gwaith caled a'u llwyddiant yn eu harholiadau CBAC. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau arholiadau Byrddau eraill yn ddiweddarach heddiw.

鈥淲rth i ni ddathlu鈥檙 canlyniadau hyn mae鈥檔 bwysig cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth athrawon ein hysgolion sydd wedi gweithio mor galed i baratoi eu myfyrwyr ar gyfer yr arholiadau hyn, a rhaid i ni hefyd gofio am y gefnogaeth y mae rhieni a gofalwyr y bobl ifanc wedi ei rhoi iddynt dros y blynyddoedd. Rwy鈥檔 arbennig o falch o鈥檙 cynnydd cadarnhaol yn nifer y graddau A* ac A eto eleni.

鈥淢ae myfyrwyr Sir y Fflint wedi gweithio'n galed wrth ddilyn rhaglenni astudio heriol. Rwy鈥檔 falch iawn dros bob un ohonyn nhw ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar y llwybrau maen nhw wedi'u dewis ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

鈥淢ae鈥檙 canlyniadau hynod foddhaol hyn yn benllanw blynyddoedd o waith caled ar ran myfyrwyr Sir y Fflint ynghyd ag ymroddiad a dawn eu hathrawon wrth eu paratoi ar gyfer eu harholiadau.

"Rwyf wrth fy modd yn llongyfarch pob un ohonyn nhw ac yn diolch i'w hathrawon, eu rhieni a'u gofalwyr am eu hanogaeth a'u cefnogaeth. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw wrth iddyn nhw fynd ymlaen at heriau newydd, boed hynny yn y coleg, yn y brifysgol neu ym myd gwaith.鈥