Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen Gwella Gwyliau
Published: 13/08/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Rhaglen Gwella Gwyliau (SHEP) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) am yr ail flwyddyn yn olynol yr haf hwn.
Mae SHEP yn raglen a chynhelir gan CLlLC ers 2016. Mae'n raglen ar gyfer ysgolion sy鈥檔 darparu prydau iach, addysg am fwyd a maeth, ymarfer corff a sesiynau cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau鈥檙 haf.听
听鈥楤wyd a Hwyl鈥 yw enw鈥檙 brand a ddefnyddir i hyrwyddo鈥檙 clybiau i blant a theuluoedd.
Cynhelir y rhaglen bedwar diwrnod yr wythnos, yn ail, trydedd a phedwaredd wythnos gwyliau鈥檙 ysgol ar bedwar safle - Ysgol Maes y Felin, Treffynnon, Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney, Ysgol Gynradd Queensferry ac Ysgol Uwchradd y Fflint. Mae 40 lle ar bob safle ac mae鈥檙 niferoedd wedi bod yn gadarnhaol dros ben.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 Aelod Cabinet dros Addysg;听
听鈥淢ae'n sefyllfa drist iawn yn yr 21 ganrif, bod plant yn llwglyd dros wyliau'r haf gan fod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio neu gael mynediad at fwyd sy'n darparu deiet iach.听 Yn ystod y tymor, gallent gymryd mantais o glybiau brecwast a phrydau ysgol am ddim, ond wrth i dlodi bwyd ddod yn broblem gynyddol yng Nghymru, mae cynlluniau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol - nid yn unig i ddarparu plant 芒 dau bryd iach y diwrnod, ond eu hannog i fod yn fwy egn茂ol, gwneud ffrindiau newydd ac ymgysylltu mwy gyda鈥檙 ysgol.
Mae diwrnod arferol yn dechrau am 9am a gorffen am 1pm, ac yn cynnwys brecwast, gweithgareddau dysgu hwyliog, gweithgareddau corfforol a sesiynau chwaraeon ac yn gorffen gyda chinio.
Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:
听鈥淕wahoddir rhieni i ymuno 芒鈥檜 plant am ginio bob dydd Iau tra mae鈥檙 cynllun yn cael ei gynnal. Gall gynnwys yr holl deulu fel hyn, helpu i wella iechyd a lles rhieni, eu helpu i fodloni costau gwyliau ysgol a鈥檜 hannog i ddysgu sgiliau newydd.听 Gallwn hefyd cynnig cymorth i鈥檞 cyfeirio at wasanaethau eraill i鈥檞 cefnogi nhw, a鈥檔 bwriad y flwyddyn nesaf yw cynnal 鈥淏wyd a Hwyl鈥 ar 4 safle ychwanegol.鈥
Mae Arlwyo NEWydd yn garedig iawn, wedi rhoi eitemau brecwast a chinio llawn maeth i鈥檙 cynllun a听
dywedodd Steve W Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd:
听鈥淩ydym yn falch iawn o gefnogi'r cynllun ffantastig hwn am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae ein cyflenwyr wedi bod yn hael iawn wrth gefnogi'r ddarpariaeth brecwast a chinio i blant Sir y Fflint. Mae Ravenscroft a Thackeray, Jones Price, The Little Food Company a Mackro, Queensferry wedi rhoi sawl eitem hefyd, gan alluogi ein staff i gynhyrchu bwydlen llawn maeth a chytbwys ar draws y rhaglen.鈥
听
听