天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Drysau Agored - Dydd Sadwrn 21 Medi 2019

Published: 13/08/2019

Tu 么l i鈥檙 llenni yn Archifdy Sir y Fflint, Yr Hen Reithordy, Penarl芒g听

Dydd Sadwrn 21 Medi - 10am i 1pm, bydd Archifdy Sir y Fflint, sydd wedi鈥檌 leoli yn yr Hen Reithordy, Penarl芒g, yn cymryd rhan yn y digwyddiad 鈥楧rysau Agored鈥�, sef digwyddiad Cymru gyfan sy鈥檔 cael ei drefnu gan Cadw.听

Mae Drysau Agored yn cynnig y cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd archwilio trysorau cudd diwylliant a hanes Cymru.

Adeilad o'r 18G yw'r Hen Reithordy sy'n sefyll o fewn ei diroedd ei hun ac a oedd yn gartref i Reithoriaid Penarl芒g am dros 200 mlynedd. Ers 60 mlynedd bellach mae鈥檙 Rheithordy wedi bod yn gartref i Archifdy Sir y Fflint lle diogelir treftadaeth archifol unigryw'r sir gan ofalu ei fod ar gael i'r cyhoedd.听

Dewch am daith 鈥榯u 么l i鈥檙 llenni鈥� lle cedwir cofnodion hanesyddol y Sir (mae archebu lle yn hanfodol) a dewch i weld ein harddangosfa am hanes yr adeilad. Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM. Bydd lluniaeth ar gael.听

Teithiau Archifdy am 10.00am a 11.45am 鈥� MAE ARCHEBU LLE YN HANFODOL

Rhif Ff么n: 01244 532364 neu drwy e-bost: archives@flintshire.gov.uk.

听