天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant Diogelwch ar y Ffyrdd 鈥 Ffordd yr Wyddgrug, Ffordd Llanarth a鈥檙 Stryd Fawr, Cei Connah

Published: 13/08/2019

Yn dilyn dyfarniad llwyddiannus o gyllid Llywodraeth Cymru o dan y fenter Grant Diogelwch ar y Ffyrdd, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod gwaith i weithredu pecyn o welliannau diogelwch ar y ffyrdd ar Ffordd yr Wyddgrug, Ffordd Llanarth a'r Stryd Fawr, Cei Connah wedi鈥檌 gwblhau.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Arwyddion Rhybudd Ysgol rhyngweithiol;听
  • adeiladu troedffordd ar hyd Clivedon Road i gysylltu 芒 Hollowbrook Drive;
  • gosod Croesfan Sebra ar Ffordd yr Wyddgrug;
  • gwella arwyddion ffyrdd a gwaith marcio ar y ffordd fawr ac ail-wynebu鈥檙 ffordd fawr mewn cyffyrdd allweddol.听

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas;

鈥淩wy鈥檔 falch iawn, ynghyd 芒鈥檙 holl gynghorwyr lleol yn yr ardal, bod y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau yn llwyddiannus.听 Bydd y gwelliannau diogelwch hyn yn sicrhau bod y plant yn ddiogel ar eu ffordd i'r ysgol ac adref o'r ysgol. Mae鈥檙 cynllun hefyd yn gwella hyfywedd a dulliau egn茂ol o deithio er lles y gymuned leol.鈥

Connah's Quay Zebra Crossing 06.jpg听 听 听 听

Connah's Quay Zebra Crossing 07.jpg

Connah's Quay Zebra Crossing 08.jpg

IMG_0145.JPG IMG_0146.JPG